Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau

Diweddarwyd 28 Mai 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae鈥檙 cyfarwyddyd hwn yn trafod cofrestru hawddfreintiau o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Ni fwriedir iddo fod yn gyfarwyddyd cyffredinol i鈥檙 gyfraith ar hawddfreintiau.

Mae gofynion ychwanegol gennym os yw hawddfraint wedi codi trwy bresgripsiwn. Amlinellir y rhain yng nghyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawlir trwy bresgripsiwn a hawliau tramwy statudol i gerbydau.

1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond cop茂au ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o鈥檙 dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chop茂au ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gop茂au gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2. Hawddfreintiau a chofrestru: pwyntiau cyffredinol

2.1 Hawddfreintiau fel gwarediadau cofrestradwy

Rhaid cwblhau rhoi neu neilltuo penodol hawddfraint am fudd cyfatebol i ystad mewn ffi syml absoliwt mewn meddiant neu dymor o flynyddoedd absoliwt dros dir cofrestredig trwy gofrestriad (adran 27(2)(d) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mewn geiriau eraill, gwarediad cofrestradwy yw. Nid yw鈥檔 llai o warediad cofrestradwy os digwydd iddo gael ei chynnwys mewn prydles, hyd yn oed os na ellir cofrestru neu nodi鈥檙 brydles. Oherwydd ei fod yn warediad cofrestradwy, nid fydd rhoi neu neilltuo鈥檙 hawddfraint yn weithredol yn y gyfraith nes y bodlonir y gofynion cofrestru (adran 27(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Amlinellir y gofynion cofrestru ym mharagraff 7 Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Rhaid cofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ac, os yw鈥檙 tir trech yn gofrestredig hefyd, rhaid cofnodi鈥檙 budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech.

Rhaid ichi gyflwyno cais i gofrestru hawddfraint ar ffurflen AP1 lle y mae鈥檙 tir buddiol a鈥檙 tir caeth yn gofrestredig. Lle bo鈥檙 tir buddiol yn ddigofrestredig gallwch wneud cais i gofrestru鈥檙 hawddfraint gan ddefnyddio naill ai ffurflen AP1 neu ffurflen AN1 i fodloni鈥檙 gofynion (rheol 90 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Lle bo鈥檙 tir buddiol a鈥檙 tir caeth yn gofrestredig, os ydych yn defnyddio ffurflen AN1 neu ffurflen UN1 i wneud cais i gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, ac os ydym yn cwblhau鈥檙 cais, ni fydd hyn yn bodloni鈥檙 gofynion cofrestru. Os ydych wedyn yn gwneud cais i gofrestru鈥檙 hawddfraint ar ffurflen AP1, byddwn yn cofnodi rhybudd ychwanegol gyda blaenoriaeth y cais diweddarach. Gan fod y rhybudd unochrog neu鈥檙 rhybudd a gytunwyd yn gwarchod i ryw raddau a gall cwestiynau ynghylch blaenoriaeth godi, ni ddil毛ir y cofnod sy鈥檔 bodoli heb gais penodol i wneud hyn ar ffurflen UN2, ffurflen UN4 neu ffurflen CN1 fel y bo鈥檔 briodol.

Lle bodlonwyd y gofynion cofrestru a lle bo鈥檙 hawddfraint am gydnabyddiaeth 芒 gwerth, effaith adran 29(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yw bod gan yr hawddfraint flaenoriaeth dros unrhyw fuddion a gr毛wyd cyn ei rhoi nad ydynt yn cael eu gwarchod ar adeg cofrestru鈥檙 hawddfraint. Ni warchodir budd oni bai ei fod yn arwystl cofrestredig, yn destun rhybudd neu fudd gor-redol neu, yn achos gwarediad ystad brydlesol, os yw baich y budd yn nodwedd yr ystad.

Er enghraifft, mae perchennog cofrestredig yn rhoi arwystl cyfreithiol ac, ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach, mae鈥檔 rhoi hawddfraint am gydnabyddiaeth 芒 gwerth. Os nad oedd yr arwystl yn cael ei warchod ar adeg cofrestru鈥檙 hawddfraint (ac nid oedd ganddo fudd cyfnod o flaenoriaeth o dan chwiliad), yna byddai gan yr hawddfraint flaenoriaeth dros yr arwystl. I鈥檙 gwrthwyneb, pe na fodlonwyd gofynion cofrestru鈥檙 hawddfraint (er enghraifft rhybudd a gytunwyd yn unig a gofnodwyd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth), ni fyddai gan yr hawddfraint flaenoriaeth dros yr arwystl (byddai adran 28 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol, hynny yw byddai blaenoriaeth gan yr un cynharaf).

2.2 Cadarnhau a yw hawddfraint wedi ei gwblhau trwy gofrestriad

Os oes angen cadarnhau a yw hawddfraint wedi cael ei gwblhau trwy gofrestriad, rydym yn awgrymu eich bod yn bwrw ymlaen fel a ganlyn.

Yn gyntaf, edrychwch ar y rhybudd a gofnodwyd o ran baich yr hawddfraint. Os mai鈥檙 unig gofnod sydd wedi ei wneud yw rhybudd unochrog, nid yw鈥檙 rhoi neu neilltuo wedi ei gwblhau trwy gofrestriad.

Os nad yw鈥檔 rhybudd unochrog, edrychwch ar y gofrestr ar gyfer y tir trech os yw鈥檔 gofrestredig. Bydd hyn yn nodi a yw鈥檙 hawddfraint yn cael ei gynnwys yn y teitl cofrestredig. Os nad yw, nid yw鈥檙 rhoi neu neilltuo wedi ei gwblhau trwy gofrestriad.

Os nad yw鈥檙 rhybudd yn rhybudd unochrog ond mae鈥檙 tir trech yn ddigofrestredig (a fydd yn wir lle y mae gan brydles fudd hawddfraint ond ei bod yn brydles na ellir ei chofrestru), ar 6 Ebrill 2018 ac ar 么l hynny bydd yr hawddfraint wedi bodloni鈥檙 gofynion cofrestru a nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 os cofnodwyd rhybudd mewn perthynas 芒 hi yng nghofrestr y teitl caeth. Cyn 6 Ebrill 2018, byddai鈥檙 hawddfraint wedi bodloni鈥檙 gofynion cofrestru a nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ar yr amod bod y cais wedi ei wneud ar Ffurflen AP1. Gallwch wneud cais am gopi o鈥檙 ffurflen gais a arweiniodd at y cofnod. Gellir gwneud cais ar ffurflen OC2. Pe bai鈥檙 cais a arweiniodd at y cofnod ar ffurflen AN1, mae鈥檙 rhybudd yn rhybudd a gytunwyd ac nid yw鈥檙 rhoi neu鈥檙 neilltuad wedi ei gwblhau trwy gofrestru.

2.3 Ein harfer flaenorol

Ar gyfer y cyfnod rhwng 5 Ebrill 2005 ac 1 Medi, 2015, ein harfer ar gofnodi rhybudd a gytunwyd mewn perthynas 芒 hawddfraint lle鈥檙 oedd y rhoi neu neilltuo yn warediad cofrestradwy oedd ychwanegu nodyn ar y ffurf ganlynol at y cofnod:

鈥淣ODYN: Ni chwblhawyd rhoi neu neilltuo hawliau鈥 trwy gofrestriad yn unol ag adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac felly nid yw鈥檔 weithredol yn y gyfraith.鈥

Nid yw鈥檙 nodyn hwn yn cael ei ychwanegu mwyach. Mae鈥檔 ddiangen gan fod modd cadarnhau a yw鈥檙 hawddfraint wedi ei gwblhau trwy gofrestriad heb nodyn o鈥檙 fath 鈥 gweler Cadarnhau a yw hawddfraint wedi ei gwblhau trwy gofrestriad. Gallai fod yn gamarweiniol hefyd oherwydd gellid ystyried (a hynny鈥檔 anghywir) bod absenoldeb nodyn yn warant o ran yr hawddfraint. Mae adran 32(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn ei gwneud yn glir na all rhybudd fyth weithredu yn y modd hwn gan 鈥渘ad yw o reidrwydd yn golygu bod y budd yn ddilys鈥.

2.4 Hawddfreintiau fel buddion gor-redol

Bydd hawddfraint gyfreithiol yn gweithredu fel budd gor-redol:

  • ar gofrestriad cyntaf: paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • ar gofrestriad gwarediad cofrestredig os naill ai (i) y byddai wedi bod yn amlwg ar archwiliad rhesymol ofalus o鈥檙 tir neu pe bai鈥檔 hysbys i鈥檙 person y gwnaed y gwarediad iddo, neu (ii) ei fod wedi ei arfer o fewn y flwyddyn cyn y gwarediad: paragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. (Fodd bynnag, bydd hawddfraint a oedd yn fudd gor-redol mewn perthynas ag ystad gofrestredig ar 12 Hydref 2003 yn parhau i weithredu fel budd gor-redol; nid oes yn rhaid iddo fodloni un o鈥檙 gofynion hyn: paragraff 9 o Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.)

Mae鈥檙 gofyniad i鈥檙 hawddfraint fod yn hawddfraint gyfreithiol yn golygu na all hawddfreintiau a roddwyd neu a neilltuwyd yn benodol ar neu ar 么l 13 Hydref 2003 dros dir cofrestredig fod yn fuddion gor-redol. Hyd nes i鈥檙 rhoi neu neilltuo gael ei gwblhau trwy gofrestriad, ecwit茂ol yn unig yw鈥檙 hawddfraint; unwaith y bydd y rhoi neu neilltuo wedi ei gwblhau trwy gofrestriad, mae鈥檙 hawddfraint yn gyfreithiol ond yna nid yw鈥檔 gymwys i fod yn fudd gor-redol am nad yw bellach yn fudd digofrestredig.

Cyflwynodd Deddf Cofrestru Tir 2002 ddyletswydd i ddadlennu buddion gor-redol penodol y mae鈥檙 ceisydd yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys hawddfreintiau. Mae rhagor o wybodaeth am fuddion gor-redol a鈥檜 dadlennu ar gael yng nghyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a鈥檜 dadlennu.

2.5 Ffurf y cofnod a wneir ar gofrestriad perchennog hawddfraint gyfreithiol

Mae Adran 2 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn datgan bod y Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer, ymhlith pethau eraill, cofrestriad cyntaf teitl i hawddfreintiau cyfreithiol, a rhoi neu neilltuo o dir cofrestredig hawddfreintiau sy鈥檔 gallu bodoli yn 么l y gyfraith. Mae manylion hawddfreintiau o鈥檙 fath yn cael eu cofnodi yng nghofrestr eiddo鈥檙 ystad gofrestredig sydd 芒 budd: rheol 5 (b) (ii) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Fel arfer, mae鈥檙 cofnod yn cyfeirio at y teitl yn cynnwys unrhyw hawddfreintiau cyfreithiol a roddir gan weithred benodol. Gynt, efallai y byddai鈥檙 cofnod wedi cyfeirio at 鈥測r hawliau鈥 yn hytrach nag at 鈥渦nrhyw hawddfreintiau cyfreithiol鈥. Fodd bynnag, nid yw鈥檙 newid hwn yn ffurf arferol y cofnod wedi ei fwriadu i newid yr hyn sydd wedi ei gynnwys yn y cofrestriad, ac nid yw鈥檔 gwneud hynny. Hyd yn oed lle y mae鈥檙 cofnod yn cyfeirio at 鈥測r hawliau鈥, ni fydd y cofrestriad yn cynnwys unrhyw rai sy鈥檔 gallu bod yn hawddfreintiau ecwit茂ol yn unig (efallai oherwydd eu hyd neu ddull eu creu) neu nad ydynt fel arall yn hawliau perchnogol sy鈥檔 gallu bodoli yn 么l y gyfraith (megis trwydded neu hawl i olygfa). Rydym yn cyfeirio at 鈥渦nrhyw hawddfreintiau cyfreithiol鈥 yn hytrach na 鈥測r hawddfreintiau cyfreithiol鈥 oherwydd efallai gallai鈥檙 olaf awgrymu bod yr holl hawliau a roddir gan y trosglwyddiad ac sy鈥檔 effeithio ar y tir a gedwir neu ar dir arall yn hawddfreintiau cyfreithiol; gallai hyn fod yn wir, ond nid o reidrwydd felly. Gweler hefyd Budd hawddfreintiau ecwit茂ol.

2.6 Gofynion ar gyfer cyflwyno cynlluniau

Fel arfer, bydd angen i weithredoedd gynnwys cynllun sy鈥檔 dangos y tir trech a鈥檙 tir caeth. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 2: paratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF.

Rhaid i鈥檙 grantwr lofnodi pob cynllun yn unol 芒 rheol 213 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

3. Hawddfreintiau mewn trosglwyddiadau a gweithredoedd grant

Mae鈥檙 adran hon yn canolbwyntio ar ddwy fath o sefyllfa. Yn gyntaf, lle bo perchennog tir (a allai fod yn gofrestredig neu鈥檔 ddigofrestredig) yn trosglwyddo rhan o鈥檙 tir a鈥檙 trosglwyddiad yn cynnwys hawddfraint sy鈥檔 effeithio ar y tir a gedwir neu sy鈥檔 fuddiol iddo. Yn ail, lle bo gweithred grant annibynnol.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

3.1 Mae鈥檙 tir trech a鈥檙 tir caeth yn gofrestredig

Mae rhoi neu neilltuo hawddfraint yn warediad cofrestradwy. Rhaid gwneud cais i gofrestru鈥檙 hawddfraint ar ffurflen AP1. Rhaid nodi rhifau teitl yr holl deitlau cofrestredig o dan sylw (caeth a threch) ym mhanel 2. Dylai鈥檙 cais gynnwys:

Byddwn yn cofnodi鈥檙 budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech a chofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y teitl caeth. Bydd hyn yn bodloni鈥檙 gofynion cofrestru.

Lle bo鈥檙 hawddfraint wedi ei chynnwys mewn trosglwyddiad o ran teitl cofrestredig, dim ond cais i gofrestru鈥檙 trosglwyddiad sy鈥檔 ofynnol; nid oes angen cais penodol o ran yr hawddfreintiau. Byddwn yn gwneud y cofnodion angenrheidiol yn awtomatig, rheol 72(4) a (5) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Fodd bynnag, rhaid cofnodi鈥檙 rhifau teitl ym mhanel 2 ffurflen AP1 o hyd.

3.2 Mae鈥檙 tir trech yn ddigofrestredig a鈥檙 tir caeth yn gofrestredig

Mae鈥檙 rhoi neu neilltuo yn warediad cofrestradwy. Rhaid gwneud cais i gofrestru鈥檙 rhoi neu neilltuo gan ddefnyddio ffurflen AP1 neu ffurflen AN1. Rhaid nodi rhifau teitl y teitlau cofrestredig caeth ym mhanel 2 yn y naill ffurflen neu鈥檙 llall. Dylai鈥檙 cais gynnwys:

Byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y teitl caeth. Bydd hyn yn bodloni鈥檙 gofynion cofrestru.

3.3 Mae鈥檙 tir trech yn gofrestredig a鈥檙 tir caeth yn ddigofrestredig

Nid yw rhoi neu neilltuo hawddfraint yn warediad cofrestradwy, felly mae鈥檔 effeithiol yn y gyfraith ar adeg ei wneud.

Bydd yr hawddfraint, gan ei bod yn gyfreithiol, yn rhwymo unrhyw brynwr dilynol. Bydd yn fudd gor-redol ar gofrestriad cyntaf (paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Gellir gwneud cais i gofrestru鈥檙 hawddfraint fel ei bod yn perthyn i鈥檙 ystad gofrestredig yn y tir trech o dan reol 73(A)(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Rhaid gwneud y cais ar ffurflen AP1. Nodwch rifau teitl y teitlau trech cofrestredig ym mhanel 2.

Dylai鈥檙 cais gynnwys:

4. Hawddfreintiau mewn prydlesi

Mae鈥檙 adran hon yn trafod yn bennaf sefyllfaoedd sy鈥檔 debyg i鈥檙 un gyntaf a grybwyllwyd yn Hawddfreintiau mewn trosglwyddiadau a gweithredoedd grant, sy鈥檔 golygu pan fydd y teitlau i鈥檙 tir caeth a鈥檙 tir trech yn gofrestredig neu鈥檔 cael eu cofrestru, y gwahaniaeth yw yn lle trosglwyddo rhan o鈥檜 tir, mae鈥檙 perchennog yn rhoi prydles o ran ohono ac mae鈥檙 brydles yn cynnwys hawddfraint sy鈥檔 effeithio ar neu鈥檔 fuddiol i dir arall sy鈥檔 perthyn iddynt.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

4.1 Hawddfreintiau mewn prydlesi cofrestredig

Ystyr 鈥榩rydlesi cofrestredig鈥 yw:

  1. prydlesi tir cofrestredig lle bo rhoi鈥檙 brydles yn warediad cofrestradwy ac sydd wedi cael ei chwblhau trwy gofrestriad (adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

  2. prydlesi tir digofrestredig lle bo rhoi neu aseinio鈥檙 brydles wedi peri cofrestriad cyntaf gorfodol a lle cofrestrwyd y teitl (adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

  3. prydlesi tir cofrestredig lle nad oedd rhoi鈥檙 brydles yn warediad cofrestradwy ond lle bo ei haseinio wedi peri cofrestriad cyntaf gorfodol a鈥檙 teitl wedi ei gofrestru (adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

  4. prydlesi tir digofrestredig sydd wedi bod yn destun cofrestriad cyntaf gwirfoddol (adran 3 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Rhaid gwneud cais i gofrestru gwarediad cofrestradwy (1 uchod) ar ffurflen AP1 a rhaid iddo gynnwys:

  • copi ardystiedig o鈥檙 brydles wreiddiol, y mae鈥檔 rhaid iddi, os cafodd ei rhoi ar neu ar 么l 19 Mehefin 2006, fod yn brydles cymalau penodedig oni bai ei bod yn un o鈥檙 eithriadau yn rheol 58(A)(c) neu (d) o Reolau Cofrestru Tir 2003
  • ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os yw鈥檔 briodol
  • y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru)
  • cydsyniadau neu dystysgrifau gofynnol o ran arwystlon neu gyfyngiadau yn nheitl cofrestredig y grantwr

Rhaid gwneud cais am gofrestriad cyntaf teitl i brydles (2, 3 a 4 uchod) ar ffurflen FR1 a rhaid iddo gynnwys:

  • copi ardystiedig o鈥檙 brydles
  • ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir, os yw鈥檔 briodol
  • y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru)
  • teitl i鈥檙 tir caeth sy鈥檔 dangos p诺er y grantwr i wneud y grant

4.1.1 Hawddfreintiau a roddir

Ar adeg cofrestru prydles cymalau penodedig, byddwn dim ond yn ystyried unrhyw hawddfreintiau a roddwyd y cyfeirir atynt yng nghymal LR11.1 a gwneud cofnod priodol.

Os na fydd LR11.1 wedi ei llenwi鈥檔 gywir, ni wneir cofnod yn y gofrestr brydlesol o ran budd unrhyw hawddfreintiau a roddir gan y brydles. Os yw cofnod yn cael ei hepgor yn y sefyllfa hon gallwch wneud cais gan ddefnyddio ffurflen AP1 naill ai ar yr adeg y cofrestrir y brydles neu wedi hynny ar gyfer yr hawddfreintiau a roddir yn y brydles i鈥檞 chofrestru.

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig am fanylion pellach ar sut i lenwi鈥檙 cymalau penodedig.

Os nad yw鈥檙 brydles yn brydles cymalau penodedig, byddwn yn ystyried yr hawddfreintiau a roddir yn y brydles ac yn gwneud y cofnod priodol yn y gofrestr.

4.1.1.1 Mae鈥檙 tir caeth yn gofrestredig

Lle bo鈥檙 hawddfraint yn cael ei rhoi dros dir yn nheitl y landlord o鈥檙 hyn y mae鈥檙 brydles yn cael ei rhoi, caiff rhybudd o鈥檙 hawddfreintiau ei chofnodi yn y gofrestr trwy gofnod safonol a wneir yn nheitl y landlord wrth gofrestru鈥檙 brydles:

鈥淢ae鈥檙 rhannau o鈥檙 tir yr effeithir arnynt trwy hyn yn ddarostyngedig i鈥檙 prydlesi a nodir yn yr atodlen prydlesi at hyn. Mae鈥檙 prydlesi鈥檔 rhoi ac yn neilltuo hawddfreintiau fel y cyfeirir atynt ynddi.鈥

Os rhoddir yr hawddfraint dros dir a gynhwysir o fewn teitlau cofrestredig eraill, rhaid nodi rhifau鈥檙 teitl yng:

  • nghymal LR2.2 yn achos prydles cymalau penodedig, neu
  • panel 2 ffurflen AP1 yn achos pob prydles arall

Bydd y cofnod a wnawn wedyn yng nghofrestr y tir caeth yn gymwys i brydlesi cymalau penodedig a phrydlesi cymalau heb eu pennu, a bydd yn debyg i hyn:

鈥淢ae鈥檙 tir yn ddarostyngedig i鈥檙 hawddfreintiau a roddwyd gan brydles鈥 a ddyddiwyd鈥 a wnaed rhwng鈥 am gyfnod o鈥︹

Sylwer: Oni bai y gwneir cais yn erbyn pob teitl cofrestredig sy鈥檔 cynnwys y tir caeth, ni fydd y cais yn ateb gofynion cofrestru adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Felly ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu cynnwys budd yr hawddfraint yn y teitl cofrestredig prydlesol.

4.1.1.2 Mae鈥檙 tir caeth yn ddigofrestredig

Bydd yr hawddfraint, gan ei bod yn gyfreithiol, yn rhwymo unrhyw brynwr olynol. Bydd yn fudd gor-redol ar gofrestriad cyntaf (paragraff 3 Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

4.1.2 Hawddfreintiau wedi eu cadw

Mae鈥檙 cofnodion y cyfeirir atynt yn Hawddfreintiau a roddir, a fydd yn ymddangos ym mhob cofrestr brydlesol, yn cyfeirio hefyd at hawddfreintiau a gedwir. Felly cofnodir rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth o ran unrhyw hawddfreintiau a gedwir yn y brydles gofrestredig. Os nad yw鈥檙 brydles yn cynnwys unrhyw hawddfreintiau llesiannol (neu os nad ydym yn eu cofnodi yn y gofrestr oherwydd bod cymal LR11.1 wedi ei lenwi鈥檔 anghywir) caiff cofnod ei wneud yn y gofrestr arwystlon o ran yr hawliau a gedwir gan y brydles.

Lle bo鈥檙 brydles yn brydles cymalau penodedig, dylid cyfeirio at unrhyw hawddfreintiau a gedwir (neu a roddir er budd tir a berchnogir gan drydydd parti) yn y brydles yng nghymal LR11.2. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig am wybodaeth bellach am sut i gwblhau鈥檙 cymalau penodedig.

Dim ond os cyfeirir atynt yng nghymal LR11.2 y mae鈥檔 rhaid i Gofrestrfa Tir EF ystyried hawddfreintiau wedi eu cadw (neu wedi eu rhoi er budd tir a berchnogir gan drydydd parti). Os nad yw鈥檙 cymal hwn yn cael ei gwblhau鈥檔 gywir, nid oes rhwymau ar Gofrestrfa Tir EF i wneud cofnod o ran y budd yng nghofrestr y teitl(au) buddiol. Os yw cofnod yn cael ei hepgor yn y sefyllfa hon, gallwch wneud cais gan ddefnyddio ffurflen AP1 naill ai ar yr adeg y cofrestrir neu wedi hynny ar gyfer yr hawddfreintiau a roddir yn y brydles i鈥檞 chofrestru.

4.1.2.1 Mae鈥檙 tir trech yn gofrestredig

Os cedwir yr hawddfreintiau er budd tir arall yn y teitl cofrestredig y rhoddir y brydles ohono, cynhwysir yr hawddfraint yn nheitl cofrestredig y landlord trwy gyfrwng cofnod yn y gofrestr ar gyfer y teitl cofrestredig hwnnw y cyfeirir ato yn Mae鈥檙 tir caeth yn gofrestredig.

Os cedwir yr hawddfraint er budd tir mewn teitlau cofrestredig eraill, byddwn yn cofnodi budd yr hawddfraint yng nghofrestr y teitlau hynny ar yr amod:

  • yn achos prydles cymalau penodedig, eich bod yn cofnodi rhif teitl y teitlau buddiol yng nghymal LR2.2, neu
  • lle na wneir cofnod pan nad yw鈥檙 brydles yn brydles cymalau penodedig, eich bod yn gwneud cais ar ffurflen AP1 yn nodi鈥檙 rhifau teitl buddiol ym mhanel 2.

Os na wneir cofnod pan fo鈥檙 brydles yn gofrestredig, gellir gwneud cais i gofnodi budd yr hawddfraint ar ddyddiad hwyrach ar ffurflen AP1 gan nodi鈥檙 rhifau teitl buddiol ym mhanel 2.

4.1.2.1 Mae鈥檙 tir trech yn ddigofrestredig

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw beth. Ar gofrestriad cyntaf y tir trech, bydd yr ystad yn cael ei breinio yn y perchennog ynghyd 芒鈥檙 hawddfraint (adran 11(3) neu adran 12(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

4.2 Hawddfreintiau mewn prydlesi digofrestredig

Ystyr 鈥榩rydlesi digofrestredig鈥 yw prydlesi:

  • nad yw eu rhoi yn warediad cofrestradwy
  • nad yw eu rhoi neu eu haseinio鈥檔 peri cofrestriad cyntaf gorfodol
  • nad ydynt yn destun cofrestriad cyntaf gwirfoddol

4.2.1 Hawddfreintiau a roddir

4.2.1.1 Mae鈥檙 tir caeth yn gofrestredig

Rhaid gwneud cais i gofrestru rhoi鈥檙 hawddfraint ar ffurflen AP1 gan amg谩u鈥檙 canlynol:

  • copi ardystiedig o鈥檙 brydles
  • ffurflen treth dir y dreth stamp, os yw鈥檔 briodol
  • unrhyw gydsyniadau angenrheidiol gan gynnwys ar gyfer unrhyw gyfyngiadau lle mae cydsyniad yn ofynnol
  • y ffi briodol a bennwyd yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru)

Wrth lenwi ffurflen AP1 dylech ddyfynnu rhifau teitl y teitlau caeth ym mhanel 2. Nodwch 鈥榗ofrestriad yr hawddfreintiau yn y brydles鈥 ym mhanel 4 ffurflen AP1, neu 鈥榗ofrestru hawddfreintiau yn y brydles鈥 ym mhanel 8 ffurflen AN1.

Gan fod rhoi鈥檙 fath hawddfreintiau yn warediad cofrestradwy mae鈥檙 ceisydd yn rhwymedig i ddyletswydd a osodir gan adran 71 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 57 o Reolau Cofrestru Tir 2003 i ddadlennu buddion gor-redol penodol sy鈥檔 effeithio ar yr ystad sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 cais. Lle bo鈥檙 brydles yn un y gellir ei nodi, megis prydles a roddwyd am fwy na thair blynedd, gallai hyn gynnwys y brydles sy鈥檔 cynnwys rhoi鈥檙 hawddfraint. O dan yr amgylchiadau hyn dylech hefyd gyflwyno ffurflen DI wedi鈥檌 llenwi gyda manylion y brydles. Byddwn fel arfer yn nodi鈥檙 brydles.

4.2.1.2 Mae鈥檙 tir caeth yn ddigofrestredig

Gan fod y tir trech a鈥檙 tir caeth hefyd yn ddigofrestredig, ni allwn wneud unrhyw beth. Gan fod yr hawddfraint yn gyfreithiol, bydd yn rhwymo unrhyw brynwr olynol y tir caeth a bydd yn fudd gor-redol ar gofrestriad cyntaf y tir caeth (paragraff 3 Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

4.2.2 Hawddfreintiau a gedwir

4.2.2.1 Mae鈥檙 tir trech yn gofrestredig

Nid yw cadw鈥檙 hawddfraint yn warediad cofrestradwy, ond mae hawddfraint gyfreithiol pan roddir y brydles yn neilltuo鈥檙 hawddfreintiau o blaid tir cofrestredig arall.

Gallwch wneud cais i gofnodi budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar ffurflen AP1 (rheol 73(A)(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Dylech amg谩u:

Wrth lenwi ffurflen AP1 dylech ddyfynnu rhifau teitl y teitlau cofrestredig ym mhanel 2. Nodwch 鈥榗ofrestriad budd hawddfreintiau a gedwir yn [disgrifiwch lle y gellir gweld y ddarpariaeth er enghraifft, Rhan 2 Atodlen 2] y brydles鈥 ym mhanel 4.

4.3 Hawddfreintiau mewn prydlesi heblaw trwy weithred

Yn gyffredinol, mae鈥檙 cyfarwyddyd hwn yn cymryd yn ganiataol bod y brydles ar ffurf gweithred. Os yw鈥檙 brydles yn ysgrifenedig yn unig, gall yr hawddfraint fod yn ecwit茂ol yn unig. Ystyr hyn yw:

  • lle bo鈥檙 tir caeth yn gofrestredig, nid yw rhoi neu neilltuo hawddfraint yn warediad cofrestradwy
  • lle bo hawddfraint wedi鈥檌 rhoi a鈥檙 tir yn gofrestredig, ni allwn gofnodi鈥檙 budd yn y gofrestr ar gyfer yr ystad brydlesol oherwydd darperir ar gyfer cofrestru hawddfreintiau cyfreithiol perthynol yn unig
  • lle bo hawddfraint wedi鈥檌 chadw a鈥檙 tir trech yn gofrestredig, ni allwn gofnodi鈥檙 budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech oherwydd darperir ar gyfer cofrestru hawddfreintiau cyfreithiol perthynol yn unig
  • lle bo hawddfraint wedi鈥檌 rhoi neu ei chadw a鈥檙 tir caeth yn ddigofrestredig, bydd yn rhaid gwarchod yr hawddfraint honno trwy bridiant tir Dosbarth D(iii)

5. Hawddfreintiau ar gofrestriad cyntaf y tir trech neu gaeth

Mae鈥檙 adran hon yn trafod beth sy鈥檔 digwydd ynghylch yr hawddfreintiau pan fydd perchennog y tir a gedwir neu鈥檙 trosglwyddai yn Hawddfreintiau mewn trosglwyddiadau a gweithredoedd grant sydd 芒 theitl digofrestredig, wedyn yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf (neu pan fydd olynydd mewn teitl yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf) y teitl hwnnw.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

5.1 Hawddfreintiau llesiannol

Ar 么l cwblhau cofrestriad cyntaf, mae鈥檙 tir yn cael ei freinio yn y perchennog cofrestredig ynghyd 芒 budd yr holl fuddion sy鈥檔 bodoli er budd yr ystad gofrestredig (adran 11(3) neu adran 12(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae hyn yn wir p鈥檜n ai a ddangosir hawddfraint yn y gofrestr ai peidio.

Fodd bynnag, lle bo鈥檔 bosibl, byddwn yn cofnodi yn y gofrestr manylion llawn hawddfreintiau perthynol sy鈥檔:

  • grantiau penodol yn y trawsgludiad i鈥檙 ceisydd, neu
  • sy鈥檔 grantiau penodol neu y cyfeirir atynt yn y weithred wreiddyn, neu sy鈥檔 grantiau penodol mewn gweithred olynol, ac ymddengys eu bod wedi鈥檜 trosglwyddo i鈥檙 ceisydd

Cyn inni allu cofnodi budd hawddfraint yn y gofrestr rhaid inni fod yn siwr ei bod yn bodoli fel budd cyfreithiol. Rhaid ichi, felly, gyflwyno tystiolaeth y bu gan y grantwr b诺er i roi鈥檙 hawddfraint 鈥 gweler Profi p诺er y grantwr i roi鈥檙 grant. Os nad yw鈥檙 dystiolaeth a gyflwynir yn dangos yn derfynol bod hawddfraint gyfreithiol yn bodoli gallwn naill ai adael yr hawl allan neu ychwanegu nodyn amodol at y cofnod.

Os yw鈥檙 hawddfraint mewn termau penodol ac os y鈥檌 rhoddwyd dros dir digofrestredig sydd wedi cael ei gofrestru ers hynny, gall fod angen cofnodi rhybudd o ran yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ar yr un pryd ag a gofnodir budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech. Fodd bynnag, nid oes angen ichi wneud cais i gofnodi鈥檙 rhybudd hwn; byddwn yn trefnu hyn fel rhan o鈥檙 cofrestriad cyntaf. Byddwn fel arfer yn cyflwyno rhybudd i berchnogion cofrestredig y tir caeth i鈥檞 hysbysu bod y cofnod yn cael ei wneud yn eu teitl cofrestredig.

5.2 Hawddfreintiau darostyngedig

Byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr o鈥檙 holl hawddfreintiau, p鈥檜n ai a ydynt yn gyfreithiol neu ecwit茂ol:

  • a gynhwysir yn y gweithredoedd a dogfennau a gyflwynwyd gyda鈥檙 cais
  • a ddadlennir ar ffurflen DI

6. Hawddfreintiau ymhlyg a thrwy bresgripsiwn

Yn achos hawddfreintiau dros dir cofrestredig sydd o ganlyniad i grant ymhlyg neu bresgripsiwn, nid oes rhaid eu cwblhau trwy eu cofrestru er mwyn iddynt fod yn effeithiol yn y gyfraith. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr hawddfraint yn fudd gor-redol (paragraff 3 Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Gellir cofrestru hawddfraint ymhlyg neu trwy bresgripsiwn fel ei bod yn perthyn i鈥檙 ystad gofrestredig yn y tir trech (rheol 73(A) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Rhaid gwneud cais o dan reol 73(A) o ran hawddfraint ymhlyg ar ffurflen AP1. Dylai panel 5 y ffurflen:

  • ddangos yn glir bod y cais i gofrestru hawddfraint ymhlyg o dan reol 73(A) o Reolau Cofrestru Tir 2003, a
  • nodi鈥檙 weithred yr honnir bod yr hawddfraint yn ymhlyg ynddi

Dylid cyflwyno gyda鈥檙 cais dystiolaeth bod hawddfraint ymhlyg wedi codi, megis gorchymyn llys neu ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, ac unrhyw dystiolaeth angenrheidiol o b诺er y grantwr i wneud y grant 鈥 gweler Profi p诺er y grantwr i wneud y grant. Byddwn fel arfer yn cyflwyno rhybudd i鈥檙 perchennog caeth yn yr achosion hyn.

Os oes gan dir sy鈥檔 destun cais am gofrestriad cyntaf fudd hawddfraint ymhlyg, dylech gynnwys y dystiolaeth a grybwyllwyd uchod ac egluro鈥檙 amgylchiadau mewn llythyr gyda鈥檙 cais.

Lle y mae hawddfraint ymhlyg neu hawddfraint trwy bresgripsiwn yn cael ei gofrestru鈥檔 berthynol i ystad gofrestredig ac mae鈥檙 tir caeth yn gofrestredig, byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ar yr un pryd.

Lle y mae鈥檙 hawddfraint wedi codi trwy bresgripsiwn 鈥 gweler cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawlir trwy bresgripsiwn a hawliau tramwy statudol i gerbydau.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

7. Profi p诺er y grantwr i wneud y grant

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

7.1 Mae鈥檙 tir caeth yn gofrestredig

7.1.1 Arwystlon

Dylech gyflwyno cydsyniad unrhyw arwystlai鈥檙 tir caeth y mae gan ei arwystl flaenoriaeth dros roi鈥檙 hawddfraint ac nad yw wedi ymuno yn y weithred.

Os nad yw鈥檙 arwystlai wedi cydsynio i鈥檙 grant, mae鈥檔 debygol y caiff yr hawddfraint ei gor-redeg os yw鈥檙 arwystlai yn arfer eu p诺er gwerthu. Os na ellir cyflwyno cydsyniad arwystlai, os yw鈥檙 tir trech yn gofrestredig, a鈥檔 bod yn bwrw ymlaen 芒鈥檙 cofrestriad, byddwn yn ychwanegu nodyn yn debyg i鈥檙 canlynol at y gofrestr ar gyfer y tir trech:

鈥楴ODYN: Ni chyflwynwyd cydsyniad perchennog yr arwystl dyddiedig鈥 o blaid鈥 sy鈥檔 effeithio ar deitl(-au)鈥 ar gofrestriad a gellir gor-redeg yr hawliau鈥 os arferir y p诺er gwerthu鈥.

Gellir dileu鈥檙 nodyn yn ddi-d芒l os gwneir cais ar ffurflen AP1 yn amg谩u鈥檙 cydsyniad.

7.1.2 Cyfyngiadau

Rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad (gan gynnwys cyfyngiad o blaid arwystlai) yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth. Os nad oedd rhoi鈥檙 hawddfraint yn warediad tir cofrestredig oherwydd bod y tir caeth yn ddigofrestredig ar adeg ei rhoi, yna ni fydd cyfyngiad yn erbyn cofrestru gwarediad, neu yn erbyn cofrestru neu nodi gwarediad, ynddo鈥檌 hun yn ein rhwystro rhag cofnodi鈥檙 budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech a rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth, neu gofnodi wedyn rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Fodd bynnag, gall cyfyngiad o鈥檙 fath olygu cyfyngiad ar b诺er y grantwr i roi鈥檙 hawddfraint sy鈥檔 weithredol ar adeg y grant, yn enwedig lle mai un person yw鈥檙 grantwr a鈥檙 perchennog cofrestredig. Gall fod yn bosibl inni barhau o hyd, efallai yn sgil cyflwyno rhybudd, lle bo鈥檙 cyfyngiad yn awgrymu鈥檙 cyfyngiad hwn ond rydym yn fodlon y bu鈥檙 p诺er i roi鈥檙 hawddfraint gan y grantwr.

7.1.3 Rhybuddiadau a rhybuddion adneuo (bwriadedig)

Os oes rhybuddiad neu rybudd adneuo (bwriadedig) yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth ac am na chyflwynwyd cydsyniad y rhybuddiwr i gofrestriad yr hawddfraint gyda鈥檙 cais, gallwn gyflwyno rhybudd i鈥檙 rhybuddiwr neu鈥檙 adneuai.

7.2 Mae鈥檙 tir caeth yn ddigofrestredig

Rhaid cyflwyno gyda鈥檙 cais deitl llawn i鈥檙 tir caeth gan ddechrau gyda gwreiddyn da sy鈥檔 fwy na 15 mlynedd oed ar ddyddiad y cais ac yn cynnwys canlyniadau chwiliadau Pridiannau Tir.

7.2.1 Arwystlon

Dylid cyflwyno cydsyniad unrhyw forgeisiai cyfreithiol y tir caeth i roi鈥檙 hawddfraint oni bai eu bod wedi ymuno yn y grant. Os na chyflwynir y cydsyniad hwn, gallwn fynd ymlaen i gofnodi budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, ond byddwn yn ychwanegu nodyn yn debyg i鈥檙 un yn Arwystlon. Unwaith eto, gellir dileu鈥檙 nodyn yn ddi-d芒l os gwneir cais ar ffurflen AP1 yn amg谩u鈥檙 cydsyniad.

8. Hawddfreintiau ecwit茂ol

Os rhoddir hawddfraint heblaw am gyfnod sy鈥檔 gyfatebol i ffi syml absoliwt 芒 meddiant neu dymor blynyddoedd absoliwt (er enghraifft os y鈥檌 rhoddwyd am oes), bydd yn ecwit茂ol. Enghraifft arall o hawddfraint ecwit茂ol yw hawddfraint a roddwyd dros dir cofrestredig lle nad yw鈥檙 grant, sy鈥檔 warediad cofrestradwy, yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

8.1 Budd hawddfreintiau ecwit茂ol

Os yw鈥檔 amlwg bod hawddfraint yn ecwit茂ol, ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi ei budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech ar gofrestriad cyntaf y tir trech na wedi hynny. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod Deddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu ar gyfer cofrestru buddion cyfreithiol yn unig (adran 2 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Felly dim ond budd ystadau cyfreithiol perthynol y gellir ei gofnodi yn y gofrestr ar gofrestriad cyntaf (rheol 33(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003); a dim ond budd hawddfreintiau cyfreithiol y gellir ei gofrestru lle bo鈥檙 tir trech yn gofrestredig eisoes (paragraff 7 Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 73(A) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Fodd bynnag, ar gofrestriad cyntaf ystad, bydd yr ystad honno yn breinio yn y perchennog cofrestredig 鈥榶nghyd 芒鈥檙 holl fuddion sy鈥檔 bodoli er budd yr ystad鈥, a allai gynnwys hawddfreintiau ecwit茂ol (adran 11(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Os oes unrhyw amheuaeth ar gofrestriad cyntaf y tir trech a yw hawddfraint yn gyfreithiol yn hytrach nag ecwit茂ol, gall y cofrestrydd gofnodi manylion yr hawl a hawlir, gydag amod priodol (rheol 33(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Yn yr un modd, lle bo cais i gofnodi yng nghofrestr tir trech cofrestredig budd hawddfraint sy鈥檔 grant penodol neu sydd wedi ei chadw dros dir digofrestredig neu sydd wedi ei chael heblaw trwy grant penodol, a lle bo amheuaeth a yw鈥檙 hawddfraint yn gyfreithiol, gall y cofrestrydd gofnodi manylion yr hawl a hawlir gydag amod priodol (rheol 73(A)(5) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Sylwer: Gan fod y ddeddfwriaeth yn caniat谩u cynnwys budd hawddfreintiau cyfreithiol yn unig mewn teitl cofrestredig, ni fyddai budd unrhyw hawddfreintiau ecwit茂ol y digwyddodd bod cyfeiriad atynt yn y gofrestr ar gyfer y tir trech (efallai o ganlyniad o鈥檜 drysu gyda hawddfreintiau cyfreithiol) yn cael eu cynnwys yn y teitl cofrestredig.

8.2 Baich hawddfreintiau ecwit茂ol

Os yw鈥檙 tir caeth yn gofrestredig, dylid gwneud cais i gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog o ran yr hawddfraint ecwit茂ol. Am ragor o fanylion am sut i wneud cais i gofnodi rhybudd gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti.

Lle rhoddir hawddfraint ecwit茂ol wrth drosglwyddo tir cofrestredig byddwn yn cofnodi rhybudd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth yn awtomatig, ar yr amod bod rhif y teitl yn cael ei nodi ym mhanel 2 ffurflen AP1. Nid oes angen cais ar wah芒n ar ffurflen AN1 neu ffurflen UN1. Fel y nodwyd yn Budd hawddfreintiau ecwit茂ol ni fyddwn yn cofnodi budd hawddfraint ecwit茂ol yn y gofrestr.

Ar gofrestriad cyntaf y tir caeth, byddwn yn cofnodi rhybudd yn y gofrestr o ran hawddfreintiau ecwit茂ol 鈥 gweler Hawddfreintiau darostyngedig. Unwaith eto, ni fyddwn yn cofnodi budd hawddfraint ecwit茂ol ar gofrestriad cyntaf y tir trech.

9. Is-brydlesi ac aseiniadau o ran

Os yw tenant sydd 芒 budd hawddfraint a roddwyd yn y brydles yn is-brydlesu rhan o鈥檙 tir gyda budd yr hawddfraint, ymddengys mai un hawddfraint sydd o hyd. Gall yr is-denant wneud cais i gofnodi rhybudd yr hawddfraint yng nghofrestr y teitl sy鈥檔 uwch nag un y tenant, oni bai bod rhybudd o ran yr hawddfraint (heblaw rhybudd unochrog) yn bodoli eisoes. Os cofnodir rhybudd unochrog a datgenir mai鈥檙 is-denant yw鈥檙 buddiolwr, bydd yn gwarchod hawl yr is-denant i arfer yr hawddfraint yn unig a gellir ei ddileu ar gais yr is denant ar ffurflen UN2. Os cofnodir rhybudd a gytunwyd, mae鈥檔 annhebyg y caiff ei ddileu ar gais yr is-denant yn unig oherwydd bod rhaid bodloni鈥檙 cofrestrydd bod y budd o dan sylw wedi terfynu鈥檔 gyfan gwbl (rheol 87(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Ymddengys bod y sefyllfa yn debyg lle bo鈥檙 tenant yn aseinio rhan o鈥檙 tir gyda budd hawddfraint a roddwyd mewn prydles ddigofrestredig.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

10. Darpariaethau sy鈥檔 atal creu neu basio hawddfreintiau

Ar drosglwyddiad neu brydles, gall y trosglwyddai neu鈥檙 tenant, heb grant datganedig, gaffael hawddfreintiau sy鈥檔 effeithio ar dir a gedwir gan y trosglwyddwr neu鈥檙 landlord. Gall hyn fod yn rhinwedd adran 62 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 neu鈥檙 rheol yn Wheeldon v Burrows. Ac ar drosglwyddiad neu brydles, gall budd hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli basio鈥檔 awtomatig gyda鈥檙 tir. Fodd bynnag, gellir atal creu a phasio鈥檙 hawddfreintiau trwy ddarpariaeth addas yn y trosglwyddiad neu brydles.

Mae鈥檙 adrannau canlynol yn awgrymu ffurfiau o eiriad i鈥檞 defnyddio i eithrio gweithredu adran 62 neu鈥檙 rheol yn Wheeldon v Burrows, ac i atal budd hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli rhag pasio. Nid yw defnyddio鈥檙 geiriad hwn yn orfodol, ond bydd yn sicrhau bod yr arfer a nodir isod yn cael ei dilyn.

10.1 Atal creu hawddfreintiau

Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad sy鈥檔 dweud:

鈥淣id oes hawddfreintiau鈥檔 ymhlyg er budd yr eiddo ac eithrir gweithredu [adran 62 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925] [a] {neu} [y rheol yn Wheeldon v Burrows]鈥

neu eiriad tebyg, gwneir cofnod yn y gofrestr eiddo ar gyfer y tir a drosglwyddir sy鈥檔 nodi telerau鈥檙 cymal neu sy鈥檔 datgan bod y trosglwyddiad:

鈥測n cynnwys darpariaeth yn ymwneud 芒 chreu neu basio hawddfreintiau鈥

Ni wneir y cofnod hwn yn y gofrestr pan fo鈥檙 cymal mewn prydles.

10.2 Atal pasio budd hawddfreintiau

Ymddengys nad yw pasio budd hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli yn awtomatig, yn absenoldeb geiriau sy鈥檔 atal hyn yn y trosglwyddiad neu鈥檙 brydles, yn dibynnu ar weithredu adran 62.

Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad sy鈥檔 dweud:

鈥淢ae鈥檙 eiddo鈥檔 cael ei drosglwyddo heb fudd unrhyw hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli鈥

neu eiriad tebyg, ni chaiff unrhyw gofnodion mewn perthynas 芒 hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli yn nheitl y trosglwyddwr eu cario ymlaen i deitl y trosglwyddai. Gwneir cofnod yng nghofrestr eiddo teitl y trosglwyddai yn datgan bod y trosglwyddiad:

鈥測n cynnwys darpariaeth yn ymwneud 芒 chreu neu basio hawddfreintiau鈥

Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad sy鈥檔 dweud:

鈥淭rosglwyddir yr eiddo heb fudd unrhyw hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli heblaw鈥檙 rhai y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad hwn鈥

neu eiriad tebyg, y cofnodion yn nheitl y trosglwyddwr y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad fydd yr unig rai i gael eu cario ymlaen i deitl y trosglwyddai. Gwneir cofnod yng nghofrestr eiddo teitl y trosglwyddai sy鈥檔 datgan bod y trosglwyddiad:

鈥測n cynnwys darpariaeth yn ymwneud 芒 chreu neu basio hawddfreintiau鈥

Pan nad yw cofnodion yn cael eu cario ymlaen oherwydd cymal sy鈥檔 atal pasio budd hawddfreintiau, ni fyddwn yn dileu unrhyw rybudd mewn perthynas 芒 baich yr hawddfreintiau yn y teitl i鈥檙 tir caeth yn awtomatig. Gellir gwneud cais i ddileu ar ffurflen CN1.

Os nad yw鈥檙 cymal yn y trosglwyddiad yn defnyddio un o鈥檙 ffurfiau o eiriad a nodir uchod ac:

  • nad yw鈥檔 glir ai effaith y cymal yw atal pasio budd hawddfraint sy鈥檔 bodoli, a鈥檌
  • fod yn ymddangos y byddai teitl y trosglwyddai yn cael rhywfaint o fudd o鈥檙 hawddfraint

bydd y cofnod perthnasol yn cael ei gario ymlaen i deitl y trosglwyddai, ond bydd y nodyn canlynol, neu rywbeth tebyg, yn cael ei ychwanegu:

鈥淣ODYN: Mae鈥檙 hawddfreintiau cyfreithiol wedi eu cynnwys yn y cofrestriad hwn dim ond i鈥檙 graddau nad ydynt wedi eu heithrio gan effaith y trosglwyddiad dyddiedig鈥 y cyfeirir ato鈥︹

Lle ceir cymal mewn prydles (yn achos prydles cymalau penodedig, dylid cynnwys y cymal neu gyfeirio ato yn ddelfrydol ym mhanel LR4 ond gall fod yn lle hynny yn LR11) yn nodi bod yr eiddo鈥檔 cael ei osod neu ei brydlesu heb fudd unrhyw hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli, ni fydd unrhyw gofnodion mewn perthynas 芒 budd hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli yn nheitl y landlord yn cael eu cario ymlaen i deitl y tenant. Pan fo鈥檙 cymal yn nodi bod yr eiddo鈥檔 cael ei osod neu ei brydlesu gyda budd yr hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli y cyfeirir atynt yn benodol yn y brydles yn unig, dim ond y cofnodion yn nheitl y landlord y cyfeirir atynt yn benodol yn y brydles fydd yn cael eu cario ymlaen i deitl y tenant. Lle nad yw鈥檔 glir ai effaith y cymal yw atal budd sy鈥檔 bodoli rhag pasio, ni fydd y cofnod perthnasol yn cael ei gario ymlaen.

10.3 Atal creu a throsglwyddo hawddfreintiau

Yn aml, y bwriad yw atal (i) creu hawddfreintiau newydd a (ii) pasio budd hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli neu o leiaf y rhai heblaw鈥檙 hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli y cyfeirir atynt yn y trosglwyddiad. Lle ceir cymal mewn trosglwyddiad sy鈥檔 dweud:

鈥淣id oes hawddfreintiau鈥檔 ymhlyg er budd yr eiddo ac eithrir gweithredu [adran 62 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925] [a] {neu} [y rheol yn Wheeldon v Burrows]鈥. Trosglwyddir yr eiddo heb fudd unrhyw hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli (heblaw鈥檙 rhai y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad hwn]鈥

neu eiriad tebyg, ni chaiff unrhyw gofnodion mewn perthynas 芒 hawddfreintiau sy鈥檔 bodoli yn nheitl y trosglwyddwr eu cario ymlaen i deitl y trosglwyddai. Gwneir cofnod yng nghofrestr eiddo y tir a drosglwyddir, yn nodi telerau鈥檙 cymal neu鈥檔 datgan bod y trosglwyddiad:

鈥測n cynnwys darpariaeth yn ymwneud 芒 chreu neu basio hawddfreintiau鈥

Ni wneir y cofnod hwn os yw鈥檙 cymal mewn prydles (ym mhanel LR4 neu LR11 yn achos prydles cymalau penodedig).

Os cynhwysir y geiriad mewn cromfachau sgw芒r (鈥渉eblaw鈥檙 rhai y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad hwn鈥), dim ond y cofnodion yn nheitl y trosglwyddwr y cyfeirir atynt yn benodol yn y trosglwyddiad fydd yn cael eu trosglwyddo i deitl y trosglwyddai. Os oes cymal tebyg mewn prydles, dim ond y cofnodion yn nheitl y landlord y cyfeirir atynt yn benodol yn y brydles fydd yn cael eu cario ymlaen i deitl y tenant.

Mae鈥檙 pwyntiau a wnaed yn nau baragraff olaf Atal pasio hawddfreintiau, ynghylch cymalau mewn trosglwyddiadau a phrydlesi sydd ar ffurf arall ac o鈥檙 hon nid yw鈥檔 glir ai鈥檙 effaith yw atal budd hawddfraint sy鈥檔 bodoli rhag pasio, yr un mor gymwys 芒鈥檌 gilydd yma.

11. Tynnu cofnodion o鈥檙 gofrestr pan fo hawddfraint yn cael ei gor-redeg

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau ynghylch cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

11.1 Mae鈥檙 tir trech a鈥檙 tir caeth yn gofrestredig

Ar 么l cael cais i gofrestru trosglwyddiad wrth i arwystlai arfer p诺er gwerthu tir caeth lle bo rhybudd o hawddfraint a gofnodwyd ar 么l cofrestru鈥檙 arwystl, byddwn yn archwilio a gofnodwyd budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech gyda鈥檙 nodyn y cyfeirir ato yn Arwystlon. Os felly, byddwn fel arfer am gyflwyno rhybudd i berchennog cofrestredig y tir trech. Mae hyn er mwyn ystyried y posibilrwydd y rhoddwyd cydsyniad mewn gwirionedd gan yr arwystlai ond na chafodd ei gyflwyno. Gall gwrthwynebiad ein rhwystro rhag gallu dileu鈥檙 cofnodion o ran yr hawddfraint yn y cofrestri ar gyfer y tir trech a鈥檙 tir caeth.

11.2 Mae鈥檙 tir caeth yn ddigofrestredig

Lle cofnodwyd budd hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, mae morgeisai鈥檙 tir caeth yn arfer ei b诺er gwerthu ac mae鈥檙 hawddfraint yn cael ei gor-redeg, gellir gwneud cais yn ddi-d芒l ar ffurflen AP1 i ddileu cofnod yr hawddfraint a鈥檙 nodyn y cyfeirir ato yn Arwystlon.

Mae鈥檙 nodyn a gofnodwn yn adlewyrchu鈥檙 ffaith na chyflwynwyd cydsyniad yr arwystlai ar gofrestriad. Mae鈥檔 bosibl, fodd bynnag, bod yr arwystlai wedi rhoi cydsyniad, ac felly ni chaiff yr hawddfraint ei gor-redeg. O ganlyniad, cyflwynir rhybudd o鈥檙 cais i berchennog cofrestredig y tir trech. Gall gwrthwynebiad ein rhwystro rhag dileu鈥檙 cofnod o ran yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech.

12. Tynnu cofnodion o鈥檙 gofrestr ar ddilead

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau ynghylch cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

12.1 Y cais

Pan fo hawddfraint wedi cael ei dileu a chyfeirir ati yn y gofrestr teitl, dylid gwneud cais i dynnu鈥檙 cofnod neu gofnodion ymaith.

  • Os cofnodwyd rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth a chofnodwyd y budd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, bydd yn rhaid gwneud cais ar ffurflen AP1 i dynnu鈥檙 ddau gofnod ymaith, gan nodi鈥檙 rhifau teitl ym mhanel 2 a chyflwyno tystiolaeth bod yr hawddfraint wedi cael ei dileu.
  • Os gwarchodwyd yr hawddfraint naill ai gan rybudd a gytunwyd neu rybudd cofrestrydd (megis rhybudd a gofnodwyd mewn ymateb i gais i gofrestru hawddfraint ar ffurflen AP1 neu ffurflen AN1, neu ar gofrestriad cyntaf y tir caeth), gellir gwneud cais i鈥檞 dileu ar ffurflen CN1 gyda thystiolaeth bod yr hawddfraint wedi cael ei dileu.
  • Os nad oes unrhyw rybudd (efallai oherwydd bod y tir caeth yn ddigofrestredig), ond os cofnodwyd budd yr hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, yna dylid gwneud cais i dynnu鈥檙 cofnod ymaith ar ffurflen AP1, gyda thystiolaeth bod yr hawddfraint wedi cael ei dileu.
  • Os gwarchodwyd yr hawddfraint gan rybudd unochrog, gall y buddiolwr wneud cais i鈥檞 tynnu ymaith ar ffurflen UN2. Fel arall, gall y perchennog cofrestredig, neu rywun 芒 hawl i鈥檞 gofrestru fel y perchennog, wneud cais i鈥檞 dileu ar ffurflen UN4.

Sylwer, os yw rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth yn cyfeirio at hawliau eraill nad ydynt wedi cael eu dileu, ni fyddai鈥檔 briodol i dynnu鈥檙 cofnod o鈥檙 gofrestr. Yn y sefyllfa hon yn hytrach na鈥檌 dynnu ymaith, byddwn yn gwneud cofnod yn debyg i鈥檙 canlynol:

鈥楾rwy weithred ddyddiedig鈥 a wnaed rhwng鈥 mae鈥檙 [disgrifiad o鈥檙 hawl] y cyfeirir ato uchod wedi cael ei ddileu. NODYN: Copi yn y ffeil鈥

12.2 Y dystiolaeth gefnogol

Lle bo鈥檙 cais ar ffurflen AP1 neu ffurflen CN1, rhaid ystyried y pwyntiau canlynol:

12.2.1 Gweithred gollwng

Rhaid i鈥檙 holl bart茂on sydd 芒 budd fod yn bart茂on i鈥檙 weithred neu gydsynio i ollwng. Rhaid profi鈥檙 teitl i鈥檙 tir trech. Bydd hyn yn cynnwys:

  • perchennog cofrestredig y tir trech
  • unrhyw arwystlai/morgeisai y tir trech
  • unrhyw barti arall y nodwyd ei fudd yn y gofrestr ar gyfer y tir trech ac y byddai gollwng yn effeithio鈥檔 andwyol arno. Er enghraifft, os cofnodwyd contract i werthu yn y gofrestr ar gyfer y tir trech, byddai rhaid i鈥檙 person 芒 budd y contract fod yn barti neu gydsynio.

Lle bo鈥檙 tir trech yn cynnwys teitlau prydlesol a rhydd-ddaliol 鈥 er enghraifft, os rhoddir hawddfraint er budd teitl rhydd-ddaliol a bod prydles yn cael ei rhoi wedi hynny o鈥檙 teitl hwnnw gyda budd yr hawddfraint 鈥 bydd part茂on sydd 芒 budd yn cynnwys y rhai sydd 芒 budd yn y teitlau rhydd-ddaliol a phrydlesol.

Os yw鈥檙 tir trech yn ddigofrestredig, dylai鈥檙 ceisydd gyflwyno tystiolaeth o deitl i鈥檙 tir yn yr un modd 芒 phe bai鈥檙 tir yn cael ei drawsgludo.

Os nad yw鈥檔 glir bod yr hawddfraint wedi ei dileu鈥檔 briodol oherwydd, er enghraifft, nad oedd arwystlai teitl trech yn barti i鈥檙 weithred ac nid yw ei gydsyniad wedi ei gyflwyno, gallwn wneud cofnod yn debyg i鈥檙 canlynol:

鈥楾rwy weithred ddyddiedig鈥 a wnaed rhwng鈥 mynegwyd y [disgrifiad o鈥檙 hawl a鈥檙 weithred sy鈥檔 ei chynnwys] i鈥檞 ollwng ond ni phenderfynwyd ar ddilysrwydd ei ollwng.

NODYN Copi yn y ffeil鈥

Bydd yn rhaid ichi gyflwyno copi ardystiedig o鈥檙 weithred ollwng.

12.2.2 Terfynu prydles y mae鈥檙 hawddfraint yn perthyn iddi

Bydd hawddfreintiau a roddwyd mewn prydlesi fel arfer yn dod i ben gyda鈥檙 brydles. Lle bo prydles gofrestredig wedi terfynu a gwneir cais ar ffurflen AP1 i gau鈥檙 teitl, mae鈥檔 amlwg y bydd cwblhau鈥檙 cais yn golygu tynnu unrhyw gofnod o ran hawddfraint berthynol ymaith.

12.2.3 Gadael

Nid yn unig mae rhaid bod y person sydd 芒 hawl i鈥檙 hawddfraint wedi peidio 芒鈥檌 harfer ond rhaid ei fod hefyd wedi 鈥榙angos bwriad penodol i beidio byth 芒 mynnu鈥檙 hawl ei hun na鈥檌 throsglwyddo i rywun arall ar unrhyw amser wedi hynny鈥 (Tehidy Minerals v Norman [1971] 2 QB 528, per Buckley LJ). Rhaid gosod yr amgylchiadau yr honnir iddynt gyfrif fel gadael mewn datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd.

Dim ond os bydd perchennog y tir trech yn gwneud rhyw weithred sy鈥檔 nodi鈥檔 glir fwriad pendant na fydd y perchennog na鈥檌 olynwyr yn gwneud defnydd o鈥檙 hawddfraint yn y dyfodol y gall hawliad am adawiad fod yn llwyddiannus felly (Williams v Usherwood (1983) 45) P&CR 235 a Gotobed v Pridmoore [1971] EG 759).

Rhaid edrych ar ddiffyg defnydd yng nghyd-destun yr holl amgylchiadau ac os gellir esbonio diffyg defnydd gan ffactor arall (a fyddai鈥檔 cynnwys nad oedd angen hawddfraint) ni fydd unrhyw gasgliad o adawiad.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd yn rhoi gwybodaeth am ddefnyddio datganiadau o wirionedd i gefnogi ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF.

12.2.4 Undod perchnogaeth a meddiant

Sylwch fod rhaid cael undod perchnogaeth a meddiant.

Statud

Lle鈥檙 honnir i hawddfraint gael ei dileu trwy statud, bydd angen copi ardystiedig o鈥檙 statud o dan sylw arnom, oni bai ei fod yn Ddeddf Gyhoeddus Gyffredinol.

13. Gwrthwynebiadau

Os cyflwynwn rybudd, gall y derbynnydd wrthwynebu鈥檙 cais. Os derbynnir gwrthwynebiad, ni allwn gwblhau鈥檙 cais a chofnodi rhybudd yn y gofrestr ar gyfer y tir caeth na chofnodi budd hawddfraint yn y gofrestr ar gyfer y tir trech nes y tynnir y gwrthwynebiad yn 么l neu ei ddatrys mewn rhyw ffordd arall (adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

14. Pethau i鈥檞 cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.