Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 13: chwiliadau swyddogol o'r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau

Diweddarwyd 3 Ebrill 2023

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw mynegai o ddisgrifiadau geiriol o ryddfreintiau cofrestredig sy’n rhyddfreintiau cysylltiedig ac o faenorau cofrestredig (rheol 10(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Caiff unrhyw un wneud cais, ar ffurflen SIF, am chwiliad swyddogol o’r mynegai (rheol 146 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Bydd tystysgrif y canlyniad yn dangos a oes unrhyw ryddfraint gysylltiedig neu faenor gofrestredig yn berthnasol i’r ardal(oedd) gweinyddol a chwiliwyd ynghyd â’r rhifau teitl sy’n effeithio a’r math o gofrestriad. Mae Mynegai disgrifiadau geiriol yn rhestru’r gwahanol fathau o gofrestriad y bydd modd eu datgelu trwy chwiliad swyddogol o’r mynegai.

2. Rhyddfraint

Hawl neu fraint a roddwyd gan y Goron yw rhyddfraint. Mae enghreifftiau’n cynnwys hawl i godi toll neu hawl i gynnal ffair neu farchnad. Mae’n hawl anniriaethol. Nid yw’n cynnwys perchnogaeth y tir diriaethol ac mae ar wahân i unrhyw rydd-ddaliad neu fuddion prydlesol yn y tir ei hun. Yn iaith y gyfraith, mae’n hereditament anghorfforol. Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn caniatáu cofrestru rhyddfraint gyda’i theitl ei hun. Yn y cyd-destun hwn nid yw rhyddfraint yn cynnwys unrhyw hawliau masnachol/masnachu na chreu corfforaeth siartredig nad oes ganddynt unrhyw effaith uniongyrchol ar eiddo.

Yn 2003 byddai’n anodd diffinio rhyddfraint a roddwyd gan gyfeirio at ‘City of Sunlight’ yn 1189 oherwydd y bydd terfynau’r ddinas wedi newid yn sylweddol. Caiff y fath hon o ryddfraint ei galw’n ‘rhyddfraint gysylltiedig’ gan ei bod yn berthnasol dim ond yn gyffredinol i ardal. Nid ydym yn paratoi cynllun teitl ar gyfer cofrestru rhyddfraint gysylltiedig a bydd yn cael ei chofnodi yn y mynegai geiriol. Ar y llaw arall, caiff ‘rhyddfraint sy’n effeithio’, y gellir ei diffinio fel un sy’n effeithio ar ardal, ei mynegeio ar y map mynegai.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 18: rhyddfreintiau: cofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ryddfreintiau. Mae cyfarwyddyd ymarfer 10: y map mynegai: chwiliad swyddogol yn egluro sut i chwilio’r map mynegai er mwyn gweld a yw rhyddfraint sy’n effeithio wedi ei chofrestru.

3. Maenor

Mae’r maenorau cofrestredig sy’n ymddangos yn y mynegai yn rhai ar gyfer teitlau arglwyddiaeth. Enw ar arglwydd y faenor yn unig yw arglwyddiaeth y faenor. Mewn llawer achos ni fydd unrhyw dir na hawliau ynghlwm wrth y teitl mwyach. Oherwydd ei darddiad a diffyg sylwedd diriaethol mae hefyd yn cael ei alw’n hereditament anghorfforol. Nid oes cynlluniau teitl ar gyfer y cofrestriadau hyn ac nid ydym yn dal unrhyw gofnod swyddogol o faint y faenor wreiddiol.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 22: maenorau: teitlau a hawliau maenoraidd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am dir maenoraidd.

4. Mynegai disgrifiadau geiriol

Rhaid i Gofrestrfa Tir EF gadw mynegai sy’n fodd i gael gwybod a oes unrhyw ystadau cofrestredig neu rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf yn berthnasol i ddarn o dir (adran 68 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Am nad oes modd penderfynu maint rhyddfraint gysylltiedig neu faenor yn fanwl gywir, daliwn y wybodaeth mewn mynegai disgrifiadau geiriol yn dwyn yr enw mynegai rhyddfreintiau a maenorau cysylltiedig (rheol 10(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Trefnwyd y mynegai yn ôl ardal weinyddol ac mae’n cynnwys rhifau teitl a manylion y mathau canlynol o gofrestriad.

  • ceisiadau am gofrestriad cyntaf teitl i ryddfreintiau cysylltiedig sy’n aros i’w prosesu
  • ceisiadau sy’n aros i’w prosesu am rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf lle bo rhyddfraint gysylltiedig yn destun y rhybuddiad
  • rhyddfreintiau cofrestredig sy’n rhyddfreintiau cysylltiedig
  • maenorau cofrestredig
  • rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf lle bo rhyddfraint gysylltiedig yn destun y rhybuddiad

5. Sut i gael gwybodaeth sy’n cael ei dal yn y mynegai

5.1 Ffurflen SIF

Rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen benodedig SIF i wneud cais am chwiliad swyddogol o’r mynegai.

Sylwer: byddwn yn gwrthod unrhyw gais am chwiliad swyddogol o’r mynegai rhyddfreintiau a maenorau cysylltiedig nad ydynt ar y ffurflen benodol.

Gallwch ddefnyddio ffurflen SIF i chwilio ardaloedd gweinyddol yn unig. Bydd cofnodion yn y mynegai yn cael eu cofnodi ar gyfer yr ardal(oedd) weinyddol sy’n berthnasol iddynt.

Ar unrhyw chwiliad rhaid i chi ddyfynnu’r holl ardaloedd gweinyddol presennol sy’n berthnasol i’r tir o dan sylw. At ddibenion ceisiadau ar ffurflen SIF, ardal weinyddol yw sir neu awdurdod unedol.

Mae rhestr o’r ardaloedd gweinyddol, ynghyd â manylion swyddfeydd Cofrestrfa Tir EF sy’n eu gwasanaethu, i’w cael yn Atodiad A i’r cyfarwyddyd hwn. Byddwn yn gwrthod unrhyw gais nad yw’n cyfeirio at ardal weinyddol ar y rhestr.

Byddwn yn anwybyddu unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd fel disgrifiad eiddo manwl neu gynllun. Byddwn yn prosesu’r cais trwy gyfeirio at yr ardal(oedd) weinyddol a ddyfynnwyd yn unig.

Os nad yw panel 1 ffurflen SIF wedi ei gwblhau, byddwn yn cwblhau’r cais ar gyfer rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau.

5.2 ¹ó´Úï´Ç±ð»å»å

Gweler Cofrestrfa Tir EF: ¹ó´Úï´Ç±ð»å»å Gwasanaethau Cofrestru i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w dalu am y gwasanaeth hwn.

5.3 Cyflwyno eich cais

I ganfod ble i anfon eich cais wedi’i gwblhau, gweler Cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.

5.4 Tystysgrif canlyniad

Lle bo modd, bydd tystysgrif y canlyniad yn cael ei hanfon gyda throad y post. Lle bo’r chwiliad yn dangos bod cofnodion yn y mynegai’n ymwneud â’r ardal(oedd) weinyddol a ddyfynnwyd, bydd y dystysgrif yn cynnwys detholiad o’r mynegai. Lle nad oes unrhyw gofnodion i’w dadlennu, bydd y dystysgrif yn cynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.

6. Ymholiadau

Os oes gennych bryder arbennig sydd heb gael sylw yn y cyfarwyddyd hwn, cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF cyn unrhyw chwiliad. Os yw’r broblem yn arbennig o gymhleth, gall fod yn well i chi wneud eich ymholiad yn ysgrifenedig yn swyddfa Cofrestrfa Tir EF fydd yn prosesu eich cais.

7. Atodiad A

Trefnwyd y mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau yn ôl ardal weinyddol. Dengys y tabl yr holl ardaloedd gweinyddol sy’n addas at ddibenion cais ffurflen SIF gyda swyddfeydd Cofrestrfa Tir EF sy’n eu gwasanaethu.

Ardal weinyddol Swyddfa Cofrestrfa Tir EF
Lloegr Ìý Ìý
Barnsley Nottingham Ìý
Bedford Peterborough Ìý
Birmingham Coventry Ìý
Blackburn gyda Darwen Fylde Ìý
Blackpool Fylde Ìý
Bolton Fylde Ìý
Bournemouth, Christchurch a Poole Weymouth Ìý
Bracknell Forest Caerloyw Ìý
Bradford Nottingham Ìý
Brighton a Hove (Dinas) Portsmouth Ìý
Bryste (Dinas) Caerloyw Ìý
Bury Fylde Ìý
Caerefrog Durham Ìý
Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf Plymouth Ìý
°ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù °ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù Ìý
Caint Nottingham Ìý
Calderdale Nottingham Ìý
Cernyw Plymouth Ìý
Cilgwri Penbedw Ìý
Coventry Coventry Ìý
Cumberland Durham Ìý
Darlington Durham Ìý
De Swydd Gaerloyw Caerloyw Ìý
De Tyneside Durham Ìý
Derby (Dinas) Nottingham Ìý
Doncaster Nottingham Ìý
Dorset Weymouth Ìý
Dudley Coventry Ìý
Dwyrain Essex Coventry Ìý
Dwyrain Sussex Portsmouth Ìý
Dwyrain Swydd Gaer Penbedw Ìý
Dyfnaint Plymouth Ìý
Essex Peterborough Ìý
Gateshead Durham Ìý
Glannau Mersi Penbedw Ìý
Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln Kingston upon Hull Ìý
Gogledd Gwlad yr Haf Plymouth Ìý
Gogledd Swydd Gaerefrog Durham Ìý
Gogledd Swydd Lincoln Kingston upon Hull Ìý
Gogledd Swydd Northampton °ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù Ìý
Gogledd Tyneside Durham Ìý
Gorllewin Berkshire Caerloyw Ìý
Gorllewin Sussex Portsmouth Ìý
Gorllewin Swydd Gaer a Chaer Penbedw Ìý
Gorllewin Swydd Northampton °ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù Ìý
Gwlad yr Haf Plymouth neu Weymouth Ìý
Halton Penbedw Ìý
Hartlepool Durham Ìý
Hampshire Weymouth Ìý
Kingston upon Hull (Dinas) Kingston upon Hull Ìý
Kirklees Nottingham Ìý
Knowsley Penbedw Ìý
Leeds Nottingham Ìý
Lerpwl Penbedw Ìý
Luton Peterborough Ìý
Manceinion Fylde Ìý
Medway Nottingham Ìý
Middlesbrough Durham Ìý
Milton Keynes °ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù Ìý
Newcastle upon Tyne Durham Ìý
Norfolk Kingston upon Hull Ìý
Northumberland Durham Ìý
Nottingham (Dinas) Nottingham Ìý
Oldham Fylde Ìý
Peterborough (Dinas) Peterborough Ìý
Plymouth (Dinas) Plymouth Ìý
Portsmouth Weymouth Ìý
Reading Caerloyw Ìý
Redcar a Cleveland Durham Ìý
Rochdale Fylde Ìý
Rotherham Nottingham Ìý
Rutland °ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù Ìý
St Helens Penbedw Ìý
Salford Fylde Ìý
Sandwell Coventry Ìý
Sefton Penbedw Ìý
Sheffield Nottingham Ìý
Slough Caerloyw Ìý
Solihull Coventry Ìý
Southampton Weymouth Ìý
Southend-on-Sea Peterborough Ìý
Stockport Fylde Ìý
Stockton-on-Tees Durham Ìý
Stoke-on-Trent (Dinas) Penbedw Ìý
Suffolk Kingston upon Hull Ìý
Sunderland Durham Ìý
Surrey Durham Ìý
Swindon Weymouth Ìý
Swydd Amwythig Telford Ìý
Swydd Bedford Ganolog Peterborough Ìý
Swydd Buckingham °ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù Ìý
Swydd Derby Nottingham Ìý
Swydd Durham Durham Ìý
Swydd Gaer Telford Ìý
Swydd Gaergrawnt Peterborough Ìý
Swydd Gaerhirfryn Fylde Ìý
Swydd Gaerloyw Caerloyw Ìý
Swydd GaerlÅ·r °ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù Ìý
Swydd Gaerwrangon Coventry Ìý
Swydd Henffordd (Sir) Telford Ìý
Swydd Hertford °ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù Ìý
Swydd Lincoln Kingston upon Hull Ìý
Swydd Nottingham Nottingham Ìý
Swydd Rydychen Caerloyw Ìý
Swydd Stafford Penbedw Ìý
Swydd Warwig Caerloyw Ìý
Tameside Fylde Ìý
Thurrock Peterborough Ìý
Torbay Plymouth Ìý
Traean Dwyreiniol Swydd Gaerefrog Kingston upon Hull Ìý
Trafford Fylde Ìý
Wakefield Nottingham Ìý
Walsall Coventry Ìý
Warrington Penbedw Ìý
Westmorland and Furness Durham Ìý
Wigan Fylde Ìý
Wiltshire Weymouth Ìý
Windsor a Maidenhead Caerloyw Ìý
Wokingham Caerloyw Ìý
Wolverhampton (Dinas) Coventry Ìý
Wrekin (Sir) (a elwir hefyd The Wrekin) Telford Ìý
Ynysoedd Sili Plymouth Ìý
Ynys Wyth Weymouth Ìý
Awdurdodau Llundain Ìý Ìý
Barking a Dagenham Telford Ìý
Barnet Abertawe Ìý
Bexley Croydon Ìý
Brent Abertawe Ìý
Bromley Croydon Ìý
Camden Croydon Ìý
Croydon Croydon Ìý
Dinas a Sir Dinas Llundain Abertawe Ìý
Dinas Westminster Croydon Ìý
Ealing Abertawe Ìý
Enfield Abertawe Ìý
Greenwich Telford Ìý
Hackney Abertawe Ìý
Hammersmith a Fullham Penbedw Ìý
Haringey Abertawe Ìý
Harrow Abertawe Ìý
Havering Penbedw Ìý
Hillingdon Abertawe Ìý
Hounslow Abertawe Ìý
Islington Abertawe Ìý
Kensington a Chelsea Penbedw Ìý
Kingston upon Thames Croydon Ìý
Lambeth Telford Ìý
Lewisham Telford Ìý
Merton Croydon Ìý
Newham Telford Ìý
Redbridge Penbedw Ìý
Richmond upon Thames Telford Ìý
Southwark Telford Ìý
Sutton Croydon Ìý
Tower Hamlets Abertawe Ìý
Waltham Forest Abertawe Ìý
Wandsworth Telford Ìý
Y Deml Fewnol a’r Deml Ganol Abertawe Ìý
Cymru Ymdrinnir â phob ardal gan Swyddfa Abertawe Ìý
Abertawe Ìý Ìý
Blaenau Gwent Ìý Ìý
Bro Morgannwg Ìý Ìý
Caerdydd Ìý Ìý
Caerffili Ìý Ìý
Casnewydd Ìý Ìý
Castell-nedd Port Talbot Ìý Ìý
Ceredigion Ìý Ìý
Conwy Ìý Ìý
Gwynedd Ìý Ìý
Merthyr Tudful Ìý Ìý
Pen-y-bont ar Ogwr Ìý Ìý
Powys Ìý Ìý
Rhondda Cynon Taf Ìý Ìý
Sir Benfro Ìý Ìý
Sir Ddinbych Ìý Ìý
Sir Fynwy Ìý Ìý
Sir y Fflint Ìý Ìý
Sir Gaerfyrddin Ìý Ìý
Sir Geredigion Ìý Ìý
Tor-faen Ìý Ìý
Wrecsam Ìý Ìý
Ynys Môn Ìý Ìý

8. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.