Canllawiau

Gwybodaeth ychwanegol y mae鈥檔 rhaid i chi ei chyflwyno cyn i chi wneud hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu

Cael gwybod pa fath o wybodaeth y mae angen i chi ei hanfon at CThEF cyn i chi wneud hawliad am ryddhad Treth Gorfforaeth Ymchwil a Datblygu.

Mae鈥檔 bosibl y bydd camau eraill y mae鈥檔 rhaid i chi eu cwblhau cyn i chi gyflwyno鈥檆h gwybodaeth ychwanegol. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn gywir.

Mae鈥檔 rhaid i chi lenwi ffurflen gwybodaeth ychwanegol a鈥檌 chyflwyno i CThEF er mwyn ategu hawliadau newydd am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu, neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu, neu鈥檙 ddau.听

Eich cyfnod cyfrifyddu听听

Mae angen i chi lenwi ffurflen gwybodaeth ychwanegol ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn gwneud hawliad ar ei gyfer.听听

Os ydych yn hawlio ar gyfer cyfnod sy鈥檔 hirach na 12 mis, bydd angen i chi gyflwyno鈥檙 canlynol:听听

  • ffurflen gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu cyntaf o 12 mis听听
  • ffurflen gwybodaeth ychwanegol arall ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu byr dilynol听听

Er enghraifft, os yw鈥檆h cyfnod rhoi cyfrif (y cyfnod a gwmpesir gan eich cyfrifon) yn para 16 mis, bydd angen i chi lenwi 2 Ffurflen Dreth:听

  • un Ffurflen Dreth i gwmpasu鈥檙 12 mis cyntaf听
  • yr ail Ffurflen Dreth i gwmpasu鈥檙 4 mis sy鈥檔 weddill听

Os ydych am wneud hawliadau Ymchwil a Datblygu ar gyfer y ddau gyfnod, bydd angen i chi ddarparu ffurflenni gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y ddau gyfnod hynny.听听

Dylai pob ffurflen gwybodaeth ychwanegol gynnwys gwybodaeth sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 cyfnod cyfrifyddu dan sylw yn unig.听听

Gall cyfnod cyfrifyddu gynnwys hawliadau am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu ac am gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu. Os yw鈥檙 cyfnod cyfrifyddu yn cynnwys y ddau fath o hawliad, mae鈥檙 gofynion a restrir yn y 3 adran ganlynol yn berthnasol i bob hawliad ar wah芒n, nid i鈥檙 cyfnod cyfrifyddu yn ei gyfanrwydd:听听

  • gwariant Ymchwil a Datblygu cymhwysol听听
  • manylion i鈥檞 cynnwys o ran y prosiect听听
  • disgrifiad o bob prosiect听

Pryd i gyflwyno听

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 ffurflen gwybodaeth ychwanegol gael ei chyflwyno naill ai cyn neu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn cyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth y Cwmni (CT600). Os na fyddwch yn cyflwyno鈥檙 ffurflen hon, ni fydd unrhyw hawliad am Ymchwil a Datblygu neu gredyd gwariant yn cael ei dderbyn.听听

Os byddwch yn anfon y ffurflen gwybodaeth ychwanegol a Ffurflen Dreth y Cwmni (CT600) ar yr un diwrnod, bydd yn rhaid i chi sicrhau eich bod yn anfon y ffurflen gwybodaeth ychwanegol yn gyntaf, cyn anfon Ffurflen Dreth y Cwmni. Os caiff y Ffurflen Dreth ei chyflwyno cyn y ffurflen gwybodaeth ychwanegol, bydd yr hawliad yn cael ei wrthod.

Os digwyddir hyn:听

  • byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau y byddwn yn dileu鈥檆h hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu o鈥檆h Ffurflen Dreth y Cwmni听
  • efallai na fyddwch yn gallu gwneud hawliad dilys am Ymchwil a Datblygu am y cyfnod cyfrifyddu hwnnw 鈥 os digwyddir hyn yn agos at y dyddiad olaf ar gyfer diwygio鈥檙 ffurflen听

Pwy all gyflwyno听听

Gallwch lenwi鈥檙 ffurflen gwybodaeth ychwanegol os ydych:听听

  • yn gynrychiolydd i鈥檙 cwmni听听
  • yn asiant sy鈥檔 gweithredu ar ran y cwmni, ac yn defnyddio cyfrif gwasanaethau asiant

Os ydych yn asiant听听

Mae鈥檔 rhaid i chi fewngofnodi i鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant cyn y gallwch lenwi ffurflen gwybodaeth ychwanegol ar ran eich cleient. Dylai鈥檙 cwmni roi caniat芒d i chi i lenwi鈥檙 ffurflen ar ei ran.听听

Dysgwch ragor am gofrestru gyda CThEF i greu cyfrif gwasanaethau asiant.听

Manylion i鈥檞 cynnwys o ran y prosiect听

I lenwi鈥檙 ffurflen gwybodaeth ychwanegol, bydd angen y manylion canlynol arnoch.听

Manylion y cwmni听

Y manylion canlynol am eich cwmni:听

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), mae鈥檔 rhaid i hwn gyfateb i鈥檙 un a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni听

  • cyfeirnod TWE y cyflogwr听

  • rhif cofrestru TAW

  • y math o fusnes, er enghraifft, eich cod dosbarthiad diwydiannol safonol (SIC) presennol

Os yw鈥檆h cwmni wedi鈥檌 gofrestru yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi hefyd roi鈥檙 canlynol:听

  • Rhif Cofrestru鈥檙 Cwmni (CRN) - gelwir hyn yn rif T欧鈥檙 Cwmn茂au neu rif y cwmni (mae rhif cofrestru鈥檙 cwmni鈥檔 gyfuniad o 8 rhif neu 8 cymeriad alffaniwmerig ac ar gyfer Gogledd Iwerddon y rhif yw NI ac yna 6 rhif)听

  • cyfeiriad busnes cofrestredig y cwmni - dyma鈥檙 cyfeiriad busnes sydd wedi鈥檌 gofrestru gyda Th欧鈥檙 Cwmn茂au

Manylion cyswllt听

Y manylion cyswllt ar gyfer y bobl ganlynol:听

  • y prif uwch gyswllt mewnol ar gyfer Ymchwil a Datblygu yn y cwmni, sy鈥檔 gyfrifol am yr hawliad am Ymchwil a Datblygu, er enghraifft un o gyfarwyddwyr y cwmni听

  • pob asiant sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 hawliad am Ymchwil a Datblygu 鈥 gan gynnwys unrhyw asiant sydd wedi rhoi cyngor, dadansoddi costau, helpu i baratoi asesiadau technegol, llenwi ffurflenni ar-lein, llenwi Ffurflen Dreth y Cwmni neu wedi rhoi鈥檙 wybodaeth ar gyfer y ffurflenni hynny

Dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu听

Bydd angen arnoch ddyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn hawlio ar ei gyfer. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 dyddiadau gyd-fynd 芒鈥檙 rhai a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni.

Os ydych wedi gwneud etholiad i ddefnyddio dyddiad cyfrifyddu cymedrig, mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio dyddiadau dechrau a dod i ben cymedrig (yn agor tudalen Saesneg) y cyfnod ar y ffurflen Wybodaeth Ychwanegol a Ffurflen Dreth y Cwmni am y cyfnod. Os nad yw dyddiadau dechrau a dod i ben y ddau gyflwyniad yn cyd-fynd, bydd y Ffurflen Wybodaeth Ychwanegol yn cael ei gwrthod a bydd yr hawliad rhyddhad Ymchwil a Datblygu yn Ffurflen Dreth y Cwmni yn cael ei ddileu.

Cwmn茂au sydd wedi鈥檜 cofrestru yng Ngogledd Iwerddon

Bydd angen i chi roi gwybod i ni ym mha sector y mae鈥檆h cwmni yn masnachu ynddo. Yn dibynnu ar y sector, mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu optio allan o ddarpariaethau Gogledd Iwerddon.

Os ydych yn hawlio ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys, ni all eich hawliad fod yn fwy na鈥檙 terfyn cymorth gwladwriaethol de minimis dros y cyfnod o 3 blynedd sy鈥檔 dod i ben gyda鈥檙 diwrnod y gwneir yr hawliad, neu o ganlyniad i鈥檙 hawliad hwn.

Bydd angen i chi gyfrifo cyfanswm y cymorth de minimis a ddaeth i law yn y 3 blynedd a gwneud datganiad ar y ffurflen hon nad yw wedi mynd tu hwnt i鈥檙 terfyn de minimis.

Gallwch ddysgu ragor am ryddhad cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys yn CIRD125000 鈥 Rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu: rhyddhad diwygiedig: ERIS: cwmn茂au sydd wedi鈥檜 cofrestru yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd angen i chi roi gwybod i ni yn eich hawliad os yw鈥檙 canlynol yn wir:

  • mae gennych fasnach mewn nwyddau yn ystod y cyfnod cyfrifyddu

  • mae gennych unrhyw weithgareddau perthnasol mewn perthynas 芒 thrydan yn ystod y cyfnod cyfrifyddu - cynhyrchu, trosglwyddo, dosbarthu, cyflenwi, masnachu cyfanwerthol neu gyfnewid trydan trawsffiniol

  • nad oes gennych fasnach mewn nwyddau na thrydan ac yn dewis optio allan o dan adran s1112J (4), Deddf Treth Gorfforaeth (2009)

  • mae鈥檙 busnes neu unrhyw gwmn茂au o fewn y gr诺p wedi cael cymorth gwladwriaethol de minimis yn ystod y 3 blynedd diwethaf, bydd angen i chi gyfrifo cyfanswm y cymorth de minimis a ddaeth i law a gwneud datganiad nad yw wedi mynd tu hwnt i鈥檙 terfyn de minimis

Byddai angen i chi hefyd ddatgan swm y buddiant ychwanegol a hawliwyd yn y cyfnod hawlio hwn ym mhob sector (amaethyddiaeth, dyframaeth a physgodfeydd neu sector arall) a gwneud datganiad na fydd yr hawliad hwn yn arwain at fynd tu hwnt i鈥檙 terfyn de minimis.

Ar gyfer cwmn茂au sydd wedi鈥檜 cofrestru yng Ngogledd Iwerddon, byddwch yn cael hysbysiad o鈥檙 cymorth gwladwriaethol a roddir yn yr hawliad ERIS hwn.

Rydym yn gweithio i ddiweddaru鈥檙 ffurflen wybodaeth ychwanegol i gynnwys y datganiadau angenrheidiol.

Os hoffai鈥檆h cwmni gyflwyno hawliad cyn i鈥檙 swyddogaethau newydd fod ar gael, dylech barhau i ddefnyddio鈥檙 ffurflen wybodaeth ychwanegol. Gallwch wneud hyn yn yr adran 鈥榗yflwyno ffurflen鈥 o鈥檙 arweiniad hwn.听 Byddwn yn ysgrifennu atoch yn gofyn i chi ddatgan y swm de minimis rydych yn ei hawlio yn y cyfnod cyfredol. Yna byddwn yn anfon hysbysiad atoch.

Manylion i鈥檞 cynnwys o ran dwyster Ymchwil a Datblygu听听

Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu hawlio cyfradd uwch o gredyd treth ar gyfer y cynllun mentrau bach a chanolig os ydych yn bodloni鈥檙 amod dwyster Ymchwil a Datblygu.听听

Os ydych yn bodloni鈥檙 amod hwn, bydd angen i chi roi manylion y canlynol:听听

  • cyfanswm eich costau perthnasol听听
  • costau Ymchwil a Datblygu perthnasol y cwmn茂au cysylltiedig, a chyfanswm eu costau perthnasol听听
  • gwariant Ymchwil a Datblygu cymhwysol听

Cyfanswm y costau perthnasol听听

Mae angen i chi gynnwys yr holl gostau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檆h prosiect.听

Mae hyn yn cynnwys y canlynol:听

  • costau a ystyriwyd o dan arfer cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol (GAAP) i gyfrifo elw masnach, sy鈥檔 cyfrannu at y sefyllfa elw (colled) cyn treth yn y cyfrif elw a cholled neu鈥檙 gyfriflen incwm yn eich cyfrifon GAAP听听
  • os nad ydych wedi dechrau masnachu eto 鈥 unrhyw wariant cyn masnachu y byddwch yn cael rhyddhad arno o dan adran 1045 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD90200 (yn agor tudalen Saesneg)听听
  • unrhyw gostau Ymchwil a Datblygu wedi鈥檜 cyfalafu y byddwch yn cael didyniad treth arnynt o dan adran 1308 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD81450 (yn agor tudalen Saesneg)听听

Nid yw鈥檔 cynnwys y canlynol:听听

  • unrhyw swm o amorteiddiad y mae鈥檔 rhaid i chi ei adio鈥檔 么l yn eich cyfrifiannau treth oherwydd eich bod yn cael, neu wedi cael, didyniad o dan adran 1308听听
  • costau ar daliadau neu drosglwyddiadau eraill o werth i gwmni cysylltiedig听

Cwmn茂au cysylltiedig听

Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd gynnwys unrhyw gwmn茂au sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chi ar o leiaf un diwrnod yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y gwneir yr hawliad amdano.听

I gael rhagor o wybodaeth am gwmn茂au cysylltiedig, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD82150 (yn agor tudalen Saesneg).

Gwariant Ymchwil a Datblygu cymhwysol听

Mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys manylion y costau Ymchwil a Datblygu cymhwysol. Gallwch wirio pa gostau sy鈥檔 gymwys, a hynny鈥檔 yn dibynnu ar y rhyddhad yr ydych yn ei hawlio.

Os yw鈥檆h prosiect yn bodloni鈥檙 amodau cymhwysol ar gyfer Ymchwil a Datblygu, gallwch hawlio am y canlynol ar Ffurflen Dreth y Cwmni:听

  • rhyddhad treth fel menter bach a chanolig听

  • credyd gwariant fel cwmni mawr neu fel menter bach a chanolig听

Os ydych yn hawlio rhyddhad treth menter bach a chanolig ac yn hawlio credyd gwariant, bydd angen i chi roi manylion y costau cymhwysol ar gyfer eich hawliadau am ryddhad treth a鈥檆h hawliadau am gredyd gwariant ar wah芒n.

Mae鈥檔 rhaid i chi ateb cwestiynau鈥檙 cap TWE ar gyfer pob hawliad menter bach a chanolig sy鈥檔 ymwneud 芒 chyfnodau cyfrifyddu sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ebrill 2021.听

Dim ond cwmn茂au sydd 芒 chyfnod cyfrifyddu sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ebrill 2023 sydd 芒鈥檙 opsiwn i gyflwyno:听

  • nifer y gweithwyr a ddarperir yn allanol sydd wedi bod yn rhan o brosiectau听

  • cyfeirnod TWE y Cyflogwr ar gyfer pob gweithiwr a ddarperir yn allanol听

Nid yw hyn yn atal cwmn茂au rhag hawlio costau ar gyfer gweithwyr a ddarperir yn allanol yn y cyfnodau cyfrifyddu a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2023.

MBaChau sydd 芒 swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon

Nid yw m sydd wedi鈥檜 cofrestru yng Ngogledd Iwerddon ac sy鈥檔 hawlio鈥檙 Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS) yn destun cyfyngiadau ar gyfer rhyddhad ar y canlynol:听

  • taliadau i gontractwyr tramor

  • darparwyr gweithwyr tramor a ddarperir yn allanol (EPWs)听

Dysgwch fwy am Rhyddhadau Treth R&D: rhyddhadau diwygiedig: cyfyngiadau tramor (yn agor tudalen Saesneg).听

Mae rhyddhad cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys yn gymorth gwladwriaethol de minimis ac mae鈥檙 hawliadau hyn yn destun uchafswm o ryddhad dros 3 blynedd. Mae鈥檙 uchafswm yn amrywio yn dibynnu ar ba sector y mae鈥檆h cwmni yn masnachu ynddo.听

Bydd angen i chi gyfrifo cyfanswm y cymorth de minimis a ddaeth i law gan y cwmni ac unrhyw gwmni arall yn y gr诺p yn y 3 blynedd. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud datganiad ar y ffurflen hon nad yw wedi mynd tu hwnt i鈥檙 terfyn de minimis.听

Gallwch ddysgu mwy am gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys yn CIRD125000 鈥 Rhyddhadau Treth Ymchwil a Datblygu: rhyddhad diwygiedig: ERIS: cwmn茂au sydd wedi鈥檜 cofrestru yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).

Gweithgareddau anuniongyrchol cymhwysol听

Mae鈥檔 rhain i chi gynnwys gweithgareddau sy鈥檔 ffurfio rhan o brosiect, ond nad ydynt yn cyfrannu鈥檔 uniongyrchol at ddatrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol.听

Gallwch wneud hawliad ar gyfer costau cymhwysol fel y nodir yn adran 鈥楪wariant Ymchwil a Datblygu cymhwysol鈥 yr arweiniad hwn, ar yr amod bod y costau hyn wedi codi o ganlyniad i weithgareddau anuniongyrchol cymhwysol penodol 鈥 i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr arweiniad Gwirio pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch eu hawlio.

Manylion i鈥檞 cynnwys o ran y prosiect听听

Mae angen i chi roi manylion i ni ynghylch y prosiectau yr ydych yn hawlio ar eu cyfer yn ystod y cyfnod cyfrifyddu. Mae鈥檙 manylion y mae angen i chi eu rhoi i ni yn dibynnu ar nifer y prosiectau yr ydych yn gwneud hawliadau ar eu cyfer.听

Os ydych yn hawlio ar gyfer 1 i 3 o brosiectau听听

Mae pob prosiect yn berthnasol, a bydd angen i chi ddisgrifio pob un yr ydych yn gwneud hawliad ar ei chyfer.听

Os ydych yn hawlio ar gyfer 4 i 10 o brosiectau

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cwmni ddewis 3 neu fwy o鈥檙 prosiectau hyn a鈥檜 trin fel y prosiectau perthnasol. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 prosiectau hyn, gyda鈥檌 gilydd, gyfrif am o leiaf hanner y gwariant cymhwysol yr ydych yn gwneud hawliad ar ei gyfer.听

Os ydych yn hawlio ar gyfer mwy na 10 o brosiectau

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cwmni ddewis 3 neu fwy o鈥檙 prosiectau hyn a鈥檜 trin fel y prosiectau perthnasol. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 prosiectau hyn, gyda鈥檌 gilydd, gyfrif am o leiaf hanner y gwariant cymhwysol yr ydych yn gwneud hawliad ar ei gyfer.

Ond pe bai鈥檔 rhaid i鈥檙 cwmni ddewis mwy na 10 prosiect i gyfrif am o leiaf hanner y gwariant cymwys, yna dylai ddewis y 10 prosiect sydd 芒鈥檙 gwariant cymhwysol uchaf.

Os ydych yn gwneud hawliad am ryddhad treth menter bach a chanolig ac am gredyd gwariant听听

Bydd angen i chi roi manylion, ar wah芒n, ar gyfer y nifer berthnasol o brosiectau yn seiliedig ar y costau cymhwysol ar gyfer eich:听

  • hawliad am ryddhad treth听听
  • hawliad am gredyd gwariant听听

Er enghraifft, os oes gennych 8 prosiect menter bach a chanolig, a 2 brosiect credyd gwariant Ymchwil a Datblygu, yna bydd angen i chi roi鈥檙 manylion canlynol:听

  • manylion y prosiectau menter bach a chanolig sy鈥檔 cyfrif am o leiaf 50% o gyfanswm y costau cymhwysol ar gyfer rhyddhad menter bach a chanolig, gan ddisgrifio o leiaf 3 phrosiect听听
  • manylion y ddau brosiect rydych yn gwneud hawliad rhyddhad credyd gwariant Ymchwil a Datblygu ar eu cyfer听

Disgrifiad o bob prosiect听

Y prif faes gwyddoniaeth neu dechnoleg听听

Rhowch ddisgrifiad cryno o鈥檙 maes gwyddoniaeth neu dechnoleg y mae鈥檙 prosiect yn ymwneud ag ef.听听

Bydd y derminoleg ganlynol yn eich helpu gyda鈥檙 disgrifiad:听听

  • gwyddoniaeth 鈥 astudiaeth systematig o natur ac ymddygiad y bydysawd ffisegol a materol (nid yw gwaith yn y celfyddydau, y dyniaethau na鈥檙 gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys economeg, yn wyddoniaeth at y diben hwn)听听
  • technoleg 鈥 rhoi egwyddorion neu wybodaeth wyddonol ar waith mewn ffordd ymarferol听听

O 1 Ebrill 2023 ymlaen, bydd cynnydd ym maes mathemateg yn cael ei drin fel cynnydd ym maes gwyddoniaeth at y dibenion hyn, a hynny p鈥檜n ai yw鈥檔 gynnydd o ran natur ac ymddygiad y bydysawd ffisegol a materol, neu beidio.

Y lefel safonol, o ran gwyddoniaeth neu dechnoleg, yr oedd y cwmni鈥檔 bwriadu ei chynyddu听听

Disgrifiwch lefel yr wybodaeth neu鈥檙 gallu a oedd eisoes yn bodoli ar yr adeg pan ddechreuodd y prosiect, sef y lefel yr oedd y cwmni鈥檔 bwriadu ei chynyddu. Er enghraifft, os mai bwriad y cwmni oedd gwneud y canlynol:听听

  • gwella deunydd neu ddyfais sydd eisoes yn bodoli 鈥 disgrifiwch y nodweddion a鈥檙 galluoedd a oedd eisoes yn bodoli cyn i鈥檙 prosiect ddechrau听听
  • datblygu gwybodaeth newydd mewn maes penodol o wyddoniaeth neu dechnoleg 鈥 disgrifiwch yr hyn a oedd eisoes yn hysbys cyn i鈥檙 prosiect ddechrau听听

Y cynnydd yn yr wybodaeth wyddonol neu dechnolegol yr oedd y cwmni鈥檔 bwriadu鈥檌 gyflawni听听

Rhowch ddisgrifiad o鈥檙 cynnydd, gan ddefnyddio鈥檙 lefel safonol o ran gwyddoniaeth neu dechnoleg, yr oedd y cwmni鈥檔 bwriadu鈥檌 gyflawni fel cymhariaeth.听听

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu i gyda鈥檙 disgrifiad.听听

Gall cynnydd mewn gwybodaeth neu allu o ran gwyddoniaeth neu dechnoleg arwain at ganlyniadau corfforol, neu gall fod yn gynnydd mewn gwybodaeth gyffredinol. Yn y naill achos neu鈥檙 llall, byddai gweithiwr proffesiynol galluog yn y maes hwnnw yn ei gydnabod fel gwelliant sylweddol.听听

Gall y gwelliannau gynnwys y canlynol:听听

  • creu proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth sy鈥檔 cynyddu鈥檙 wybodaeth neu鈥檙 gallu cyffredinol mewn maes gwyddoniaeth neu dechnoleg听听
  • gwelliant sylweddol o ran proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth sy鈥檔 bodoli eisoes 鈥 er enghraifft, i arbed costau neu i greu llai o wastraff (mae hyn yn cyfeirio at welliannau sylweddol iawn, y tu hwnt i uwchraddio cyffredin)听听
  • defnyddio gwyddoniaeth neu dechnoleg i gop茂o effaith proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth presennol mewn ffordd newydd neu ffordd well听听

Yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol a wynebwyd gan y cwmni听听

Mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol yn unig 鈥 er enghraifft, os nad oedd y cwmni yn:听听

  • gwybod a oedd yn bosibl creu neu wella鈥檙 cynnyrch neu鈥檙 broses听听
  • gallu rhesymu sut i greu neu wella鈥檙 cynnyrch neu鈥檙 broses yn seiliedig ar yr wybodaeth a oedd ar gael ar y pryd 鈥 er enghraifft, gwnaethoch geisio adeiladu offeryn diagnostig meddygol, a hynny鈥檔 cyfuno technoleg profi anymwthiol, deallusrwydd artiffisial (AI) a chludadwyedd, ond nid ydych yn si诺r am y dull o wneud hyn听听

Dylai鈥檙 disgrifiad o鈥檙 ansicrwydd a roddwyd gennych esbonio鈥檙 canlynol:听听

  • yr hyn sy鈥檔 eich atal rhag cyflawni cynnydd o ran gwybodaeth wyddonol neu dechnolegol (nid yw鈥檙 broblem yn ansicrwydd os oes modd ei datrys wrth ei thrafod gyda chyfoedion)听听
  • pam mae鈥檙 ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol hwn yn effeithio ar y diwydiant, ac nid ar eich cwmni chi yn unig听听
  • os byddai gweithiwr proffesiynol galluog yn y maes yn ansicr o ran sut i gyflawni鈥檙 cynnydd, esboniwch pam听

Sut y gwnaeth eich prosiect geisio datrys yr ansicrwydd hwn听听

Rhowch ragor o fanylion am y gweithgareddau Ymchwil a Datblygu uniongyrchol a ddefnyddir i geisio datrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol, yn ogystal 芒 manylion am y gweithgareddau anuniongyrchol cymhwysol.听听

Dylech ddisgrifio鈥檙 canlynol gan ddefnyddio manylion manwl:听听

  • y problemau a wynebwyd wrth gynnal y prosiect Ymchwil a Datblygu听听
  • y dulliau a gynlluniwyd, neu a ddefnyddiwyd, i ddatrys yr ansicrwydd听听
  • p鈥檜n a chafodd yr ansicrwydd ei ddatrys ai peidio, gan nodi sut a pham ni chafodd yr ansicrwydd ei ddatrys (os mai dyna鈥檙 achos)听听

Gall gweithgareddau sy鈥檔 cyfrannu鈥檔 uniongyrchol at Ymchwil a Datblygu gynnwys y canlynol:听听

  • creu neu addasu meddalwedd, deunyddiau neu offer sydd eu hangen i ddatrys yr ansicrwydd听听
  • gweithgareddau cynllunio, megis cynllun manwl o sut y byddwch yn rhoi鈥檙 prosiect ar waith听听
  • dylunio, profi a dadansoddi i ddatrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol听听

Dylech gynnwys y costau cymhwysol a godwyd ar weithgareddau uniongyrchol cymhwysol ar gyfer pob prosiect. Gwiriwch yr arweiniad ynghylch pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch wneud hawliad ar eu cyfer i weld rhestr o鈥檙 hyn y dylech ei gynnwys.听

Y rhyddhad treth rydych yn gwneud hawliad ar ei gyfer, a鈥檙 swm听听

Rhowch wybod i ni am yr hyn yr ydych yn gwneud hawliad ar ei gyfer, a swm y costau cymhwysol sy鈥檔 berthnasol i bob prosiect.听听

Os hoffech anfon rhagor o wybodaeth atom听听

Ar ben hynny, gallwch anfon manylion ategol pellach atom am eich prosiectau Ymchwil a Datblygu mewn adroddiad ar wah芒n. Gall yr adroddiad hwn gynnwys y canlynol:听听

  • methodoleg yr hawliad听听
  • y defnydd o samplu听听
  • manylion y gweithwyr proffesiynol galluog听听

Gallwch gyflwyno鈥檙 adroddiad Ymchwil a Datblygu ar wah芒n gan wneud y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:听听

Cwsmeriaid sy鈥檔 fusnesau mawr听听

I gael gwybodaeth am sut mae CThEF yn delio 芒 hawliadau credyd gwariant ar gyfer cwsmeriaid sy鈥檔 fusnesau mawr, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD80370 (yn agor tudalen Saesneg).听听

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yngl欧n 芒鈥檙 ffurflen gwybodaeth ychwanegol, gallwch gysylltu 芒鈥檙 gyfarwyddiaeth Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg). Dylech ddefnyddio鈥檙 cyfeiriad e-bost perthnasol i gysylltu 芒 ni, gan sicrhau bod eich rheolwr cydymffurfiad cwsmeriaid (CCM) wedi鈥檌 gop茂o i鈥檙 e-bost hefyd.听听

Cyn i chi ddechrau听

Os ydych:听听

  • yn gynrychiolydd o鈥檙 cwmni 鈥 bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a鈥檙 cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID),听 gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf听听
  • yn asiant 鈥 bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a鈥檙 cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am gyfrif gwasanaethau asiant. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf听听

Ni fyddwch yn gallu cael at y ffurflen unwaith y byddwch wedi ei chyflwyno, felly cadwch gopi cyn gwneud hynny.听听

Os nad oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth, gwnewch yn si诺r eich bod yn cofrestru ar gyfer un mewn da bryd i gael y manylion sydd eu hangen arnoch i gyflwyno鈥檆h ffurflen gwybodaeth ychwanegol.听听

Mae angen i bob cwmni sydd yn y gr诺p gael ei gyfrif Porth y Llywodraeth ei hun er mwyn cyflwyno ffurflen ychwanegol. Ni allwch ddefnyddio cyfrif 鈥楻heolwr Treth Gr诺p鈥.听听

Cyflwyno鈥檙 ffurflen听

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda鈥檙 gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).听听

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf听听

Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau ein bod wedi cael y ffurflen. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys cyfeirnod.听听

Cadwch nodyn o鈥檙 cyfeirnod hwn er mwyn:听听

  • i chi allu trafod eich ffurflen gwybodaeth ychwanegol gyda CThEF听听
  • i CThEF allu gwirio eich bod wedi cyflwyno eich ffurflen gwybodaeth ychwanegol, os oes angen听听

Yna, gallwch wneud eich hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Mawrth 2025 show all updates
  1. 鈥楥ompany details to include鈥 has been updated to include information about Northern Ireland and a new section on 鈥楥ompanies registered in Northern Ireland鈥. A new section on 鈥楽MEs that have a registered office in Northern Ireland鈥 has been added to 鈥楥onnected companies鈥.

  2. The 'Project details you should include' and 'Accounting period start and end date' sections have been updated.

  3. The service to submit your form has been updated to allow customers to provide additional information for R&D mergers, enhanced R&D intensive support and to allow companies to register in Northern Ireland.

  4. Added Welsh translation.

  5. A new section on Research and Development (R&D) intensity details has been added.

  6. Agents submitting additional information forms need an agent services account. They do not need to be authorised as the company鈥檚 Corporation Tax agent through Online Agent Authorisation to provide it.

  7. Who needs to submit an additional information form and what information needs to be submitted for each period has been clarified. Guidance for agents making authorised claims for companies has been added.

  8. The mandatory submission date has been changed from '1 August 2023' to '8 August 2023'. The 'Qualifying expenditure details' for claiming expenditure credit on subcontractor costs has been updated to clarify that only some of the costs can be claimed for. The 'Qualifying expenditure details' for claiming expenditure credit and SME tax relief on consumable items has been amended to remove utilities and include water, fuel and power. The list of 'qualifying indirect activities' has been updated to clarify which activities form part of a project. The 'Project details' for 11 to 100 (more) projects has been changed to clarify that you will need to describe the 10 projects with the most qualifying expenditure, and to clarify the description of the appreciable improvements.

  9. Added translation

Argraffu'r dudalen hon