Trosolwg

Mae’r pensiwn dros 80 oed yn Bensiwn y Wladwriaeth ar gyfer pobl 80 oed neu hŷn.

I fod yn gymwys rhaid i chi gael naill ai Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth o lai na £105.70 yr wythnos, neu ddim Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth o gwbl.

Gall roi £105.70 yr wythnos i chi yn y flwyddyn dreth 2025 i 2026.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).