Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn ymddeol dramor
Gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dramor
Gallwch wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dramor os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU i fod yn gymwys.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os rydych wedi byw neu weithio dramor.
Dylech gael Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth os ydych angen darganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Gwneud cais
Rhaid i chi fod o fewn 4 mis i’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth i wneud cais.
I wneud cais am eich pensiwn, gallwch naill ai:
- gysylltu â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol
- anfon y ffurflen gais ryngwladol i’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen)
Os ydych eisiau hawlio pensiwn y wladwriaeth o wlad arall
Os oeddech yn byw neu’n gweithio dramor, efallai y byddwch yn gallu hawlio pensiwn y wladwriaeth dramor cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y DU.
Cysylltwch â’r awdurdod pensiwn yn y wlad rydych yn byw ynddi. Efallai y gallant hysbysu cynlluniau pensiwn y wladwriaeth yn y gwledydd rydych wedi byw neu weithio ynddynt.
Bydd y cynlluniau yn cysylltu â chi os ydych yn gymwys.
Cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol os oes angen help arnoch gyda’ch cais.
Os ydych yn byw rhan o’r flwyddyn dramor
Mae’n rhaid i chi ddewis ym mha wlad rydych am i’ch pensiwn gael ei dalu ynddi. Ni allwch gael eich talu mewn un wlad am ran o’r flwyddyn ac un arall am weddill y flwyddyn.
Cyfrifon banc y gellir talu eich pensiwn iddynt
Gellir talu eich Pensiwn y Wladwriaeth i:
- fanc yn y wlad rydych yn byw ynddi
- banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU
Gallwch ddefnyddio:
- cyfrif yn eich enw chi
- cyfrif ar y cyd
- cyfrif rhywun arall - os oes gennych eu caniatâd ac yn cadw at delerau ac amodau’r cyfrif
Byddwch angen rhif cyfrif banc rhyngwladol (IBAN) a rhifau Cod Adnabod y Busnes (BIC) os oes gennych gyfrif tramor.
Byddwch yn cael eich talu mewn arian lleol - gallai’r swm a gewch newid oherwydd cyfraddau cyfnewid.
Pryd fyddwch yn cael eich talu
Gallwch ddewis cael eich talu bob 4 neu 13 wythnos.
Os yw eich Pensiwn y Wladwriaeth o dan £5 yr wythnos, byddwch yn cael eich talu unwaith y flwyddyn ym mis Rhagfyr.
Oedi i daliadau o amgylch gwyliau ffederal yr Unol Daleithiau
Os ydych yn byw dramor a bod eich taliad yn ddyledus yn yr un wythnos â , gallai gyrraedd un diwrnod yn hwyr. Mae hyn oherwydd bod cwmni o’r Unol Daleithiau yn prosesu’r taliadau hyn.