Beth fyddwch yn ei gael

Bydd faint o Daliad Annibynniaeth Personol rydych yn ei gael yn dibynnu ar ba mor anodd y mae:

  • gweithgareddau bob dydd (tasgau 鈥榖ywyd bob dydd鈥�)
  • symud o gwmpas (tasgau 鈥榮ymudedd鈥�)

Darganfyddwch pa dasgau sydd yn cyfrif fel tasgau bob dydd a symudedd.

Cyfraddau PIP

Cyfradd Wythnosol Is Cyfradd Wythnosol Uwch
Rhan bywyd bob dydd 拢73.90 拢110.40
Rhan Symudedd 拢29.20 拢77.05

Mae PIP yn ddi-dreth. Nid yw鈥檆h incwm na鈥檆h cynilion yn effeithio ar y swm a gewch.

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar unwaith os oes newid yn eich amgylchiadau personol neu sut mae鈥檆h cyflwr yn effeithio arnoch.

Sut y cewch eich talu

Fel arfer mae PIP yn cael ei dalu bob 4 wythnos.

Mae eich llythyr penderfyniad yn dweud wrthych:

  • ddyddiad eich taliad cyntaf
  • pa ddiwrnod o鈥檙 wythnos y byddwch fel arfer yn cael eich talu
  • am ba hyd y byddwch yn cael PIP
  • pryd ac os bydd eich cais yn cael ei adolygu

Os yw eich dyddiad talu ar 诺yl y banc, fel arfer byddwch yn cael eich talu cyn g诺yl y banc. Ar 么l hynny byddwch yn parhau i gael eich talu yn arferol.

Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans yn cael eu talu i鈥檆h cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Help arall y gallwch ei gael

Os ydych yn cael y rhan symudedd o PIP, efallai y gallwch fod yn gymwys ar gyfer:

Os ydych yn cael un ai y rhan bywyd bob dydd neu symudedd o PIP rydych yn gymwys ar gyfer .

Efallai y gallwch chi gael disgownt ar eich Treth Cyngor a theithiau bws lleol. Cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol i wirio hyn.

Os yw rhywun yn helpu i ofalu amdanoch chi, efallai y gallant gael Lwfans Gweini neu Gredyd Gweini.

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill a PIP

Fe allwch gael ychwanegiad (a elwir yn premiwm anabledd os ydych yn cael:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm (ESA)
  • Budd-dal Tai

Efallai y cewch elfen anabledd o Gredyd Treth Gwaith os ydych yn gymwys.

Os ydych yn cael Lwfans Gweini Cyson bydd eich rhan bywyd bob dydd o鈥檆h PIP yn cael ei ostwng gan y swm o Lwfans Gweini Cyson rydych yn ei gael.

Os ydych yn cael yr Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel ni fyddwch yn cael elfen symudedd PIP.