Dirprwyon: gwneud penderfyniadau dros rywun sydd heb allu
Trosolwg
Gallwch wneud cais i fod yn ddirprwy i rywun sydd 鈥榟eb alluedd meddyliol鈥�. Mae hyn yn golygu na allant wneud penderfyniad drostynt eu hunain ar yr adeg y mae angen ei wneud. Efallai y byddant dal yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain ar adegau penodol.
Efallai nad oes gan bobl alluedd meddyliol oherwydd, er enghraifft:
- maent wedi cael anaf neu salwch ymennydd difrifol
- mae ganddynt ddementia
- mae ganddynt anableddau dysgu difrifol
Fel dirprwy, cewch eich awdurdodi gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar eu rhan.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mathau o ddirprwy
Mae 2 fath o ddirprwy.
Dirprwy eiddo a materion ariannol
Byddwch yn gwneud pethau fel talu biliau鈥檙 unigolyn neu drefnu eu pensiwn.
Dirprwy lles personol
Byddwch yn gwneud penderfyniadau am driniaeth feddygol a sut mae rhywun yn cael gofal.
Ni allwch fod yn ddirprwy lles personol i rywun os ydynt yn iau na 16 oed. Ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych chi鈥檔 credu bod angen i鈥檙 llys wneud penderfyniad am eu gofal.
Gan amlaf, dim ond yn y sefyllfaoedd canlynol y bydd y llys yn penodi dirprwy lles personol:
- mae amheuaeth a fydd penderfyniadau鈥檔 cael eu gwneud er lles gorau rhywun, er enghraifft oherwydd bod y teulu鈥檔 anghytuno ynghylch gofal
- mae angen penodi rhywun i wneud penderfyniadau am fater penodol dros amser, er enghraifft lle bydd rhywun yn byw
Darllenwch y canllawiau llawn ynghylch pryd mae angen i chi wneud cais lles personol.
Bod yn ddirprwy
Gallwch wneud cais i fod yn ddim ond un math o ddirprwy neu鈥檙 ddau. Os cewch eich penodi, cewch orchymyn llys i ddweud beth allwch a beth na allwch ei wneud.
Pan fyddwch yn ddirprwy, rhaid i chi anfon adroddiad dirprwy blynyddol i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) bob blwyddyn yn esbonio鈥檙 penderfyniadau rydych wedi鈥檜 gwneud.
Gwneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod os ydych angen newid neu adnewyddu eich gorchymyn llys.
Byddwch yn parhau i fod yn ddirprwy hyd nes
Sut i wneud cais
Gwiriwch eich bod yn diwallu鈥檙 gofynion i fod yn ddirprwy.
Mae鈥檙 broses gwneud cais yn wahanol yn ddibynnol ar p鈥檜n ydych yn:
Bydd angen i chi hefyd dalu ffi gwneud cais.
Nid oes angen i chi fod yn ddirprwy os ydych ond yn gofalu am fudd-daliadau rhywun. Yn hytrach, gwnewch gais i fod yn benodai.
Gwirio eich cais
Bydd y Llys Gwarchod yn gwirio:
- a oes angen dirprwy ar yr unigolyn neu rhyw fath arall o help
- nid oes unrhyw wrthwynebiadau i鈥檆h penodiad
Os cewch eich penodi, bydd Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eich helpu i gyflawni eich cyfrifoldebau.
Ffyrdd eraill o wneud penderfyniadau i rywun
Os ydych am wneud un penderfyniad pwysig, gallwch wneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod am orchymyn untro.
Os oes gan yr unigolyn atwrneiaeth arhosol (LPA) neu atwrneiaeth barhaus (EPA) yn barod, yna ni fyddant, fel arfer, angen dirprwy. Gwiriwch a oes ganddynt LPA neu EPA cyn i chi wneud cais.