Anfon diweddariadau chwarterol
Sut a phryd i anfon diweddariad-au chwarterol, yn seiliedig ar eich cyfnod cyfrifyddu.
Bob 3 mis, bydd eich meddalwedd sy’n cydweddu yn adio eich cofnodion digidol at ei gilydd ar gyfer pob busnes sydd gennych, a hynny er mwyn creu cyfansymiau ar gyfer pob categori incwm a thraul. Gelwir y crynodebau hyn yn ‘diweddariadau chwarterol’. 
Nid oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau treth neu gyfrifyddu cyn anfon diweddariad.
Mae angen i chi anfon diweddariadau chwarterol ar gyfer pob ffynhonnell incwm hunangyflogaeth ac eiddo atom bob 3 mis. Mae’r arweiniad hwn yn nodi’r cyfnodau diweddaru a’r dyddiadau cau. Bydd eich meddalwedd yn rhoi gwybod i chi pryd i anfon diweddariadau a sut i wneud hynny.
O 6 Ebrill 2025 ymlaen, bydd y cyfnodau y mae’ch diweddariadau chwarterol yn eu cwmpasu yn newid i adlewyrchu dyluniad symlach newydd, a fydd yn ei gwneud hi’n haws i chi gywiro camgymeriadau yn ystod y flwyddyn dreth. Bydd hyn yn golygu nad oes angen i chi ailanfon y diweddariad chwarterol gwreiddiol ar ôl gwneud cywiriad.
Bydd y diweddariadau chwarterol y byddwch yn eu hanfon i CThEF yn cynnwys:
-
incwm a threuliau eich busnes o’r 3 mis blaenorol
-
y cofnodion digidol rydych wedi eu creu yn barod ers dechrau’r flwyddyn dreth, ac unrhyw gywiriadau rydych wedi’u gwneud iddyn nhw
Er enghraifft, bydd eich trydydd diweddariad chwarterol (sy’n ddyledus ar 5 Chwefror) yn anfon eich cofnodion i CThEF ar gyfer:
-
eich incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo o 6 Hydref i 5 Ionawr
-
eich incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo o 6 Ebrill i 5 Hydref rydych wedi’i hanfon atom yn barod, gan gynnwys unrhyw gywiriadau rydych wedi’u gwneud iddyn nhw
Bydd CThEF:
-
yn cael cyfansymiau ar gyfer pob categori perthnasol o ran incwm a threuliau yn seiliedig ar eich cofnodion digidol ar gyfer y cyfnod hwnnw
-
yn peidio â chael manylion cofnodion digidol unigol
Nid oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau treth neu gyfrifyddu cyn anfon diweddariad.
Os nad ydych wedi cael unrhyw incwm nac wedi ysgwyddo unrhyw dreuliau yn ystod y cyfnod diweddaru diwethaf, bydd dal angen i chi ddatgan hyn i ni drwy gyflwyno’ch diweddariad chwarterol.
Ar ôl cyflwyno diweddariad, byddwch yn gallu gweld amcangyfrif o’ch bil treth ar gyfer incwm eich busnes yn eich meddalwedd neu yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.
Os ydych wedi dewis cadw cofnodion digidol o ffynonellau incwm eraill yn eich meddalwedd, efallai y byddwch yn gallu rhoi gwybod amdanynt yn ystod y flwyddyn dreth ond ni fyddant yn cael eu cynnwys yn eich diweddariadau chwarterol. Os na allwch roi gwybod am eich cofnodion digidol yn ystod y flwyddyn dreth, neu os ydych yn dewis peidio â rhoi gwybod amdanynt, bydd angen i chi eu datgan cyn i chi gadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol a chyflwyno eich Ffurflen Dreth.
Gallwch ddysgu mwy am y categorïau o wybodaeth y dylech ei anfon i CThEF yn eich diweddariad chwarterol yn yr Hysbysiad diweddaru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:
-
cyfnodau diweddaru safonol — mae’r rhain yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill)
-
cyfnodau diweddaru calendr — mae’r rhain yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis ac yn ei gwneud hi’n haws i chi gadw cofnodion os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 31 Mawrth
Os oes gennych asiant, dylech siarad ag ef os ydych yn ansicr ynglŷn â’ch cyfnod cyfrifyddu.
Os ydych yn defnyddio cyfnodau diweddaru safonol
Mae’r cyfnodau diweddaru safonol yn seiliedig ar y flwyddyn dreth.
Unwaith i bob cyfnod diweddaru ddod i ben, mae angen i chi anfon eich diweddariad cyn pen mis.
Unwaith i’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith, os nad ydych yn anfon eich diweddariad erbyn y dyddiad cau perthnasol, gallwch gael cosb am gyflwyno’n hwyr. Nid yw’r cosbau hyn yn berthnasol yn ystod y cyfnod profi.
Yn ystod y cyfnod profi, gallwch gofrestru ran o’r ffordd drwy’r flwyddyn dreth a ni fyddwch yn cael pwynt cosb a ni chodir unrhyw gosbau arnoch am gyflwyno diweddariadau chwarterol ar ôl y dyddiadau cau. Gallwch ddarllen mwy ynghylch ‘dal i fyny’ os bydd eich amgylchiadau’n newid.
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r cyfnodau diweddaru a dyddiadau cau a fydd yn berthnasol o 6 Ebrill 2025 ymlaen.
Cyfnodau diweddaru | Dyddiad cau ar gyfer diweddaru |
---|---|
6 Ebrill i 5 Gorffennaf | 5 Awst |
6 Ebrill i 5 Hydref | 5 Tachwedd |
6 Ebrill i 5 Ionawr | 5 Chwefror |
6 Ebrill i 5 Ebrill | 5 Mai |
Os ydych yn defnyddio cyfnodau diweddaru calendr
Gallwch ddewis anfon diweddariadau chwarterol sy’n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis, os yw’ch meddalwedd yn eich galluogi i wneud hynny — gelwir y rhain yn ‘cyfnodau diweddaru calendr’. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i gadw’ch cofnodion os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 31 Mawrth.
Bydd angen i chi fodloni’r un dyddiadau cau a ddefnyddir gan y cyfnodau diweddaru safonol.
Os ydych am ddefnyddio cyfnodau diweddaru calendr, bydd angen i chi ddewis cyfnodau diweddaru calendr yn eich meddalwedd cyn eich diweddariad cyntaf gael ei wneud ar gyfer y flwyddyn dreth.
Bydd cyfnodau diweddaru calendr yn parhau i fod yn berthnasol oni bai eich bod yn penderfynu newid yn ôl i gyfnodau diweddaru safonol.
Os byddwch yn dewis newid yn ôl i gyfnodau diweddaru safonol, bydd angen i chi ddewis cyfnodau diweddaru safonol yn eich meddalwedd cyn i’r diweddariad cyntaf gael ei wneud ar gyfer y flwyddyn dreth. Unwaith i chi gyflwyno diweddariad, ni fyddwch yn gallu newid yn ôl i gyfnodau diweddaru safonol tan y flwyddyn dreth nesaf.
Mae’r tabl canlynol yn nodi’r cyfnodau diweddaru a dyddiadau cau a fydd yn berthnasol o 6 Ebrill 2025 ymlaen.
Cyfnodau diweddaru | Dyddiad cau ar gyfer diweddaru |
---|---|
1 Ebrill i 30 Mehefin | 5 Awst |
1 Ebrill i 30 Medi | 5 Tachwedd |
1 Ebrill i 31 Rhagfyr | 5 Chwefror |
1 Ebrill i 31 Mawrth | 5 Mai |
Mae angen i chi anfon diweddariadau chwarterol ar gyfer pob ffynhonnell incwm hunangyflogaeth ac eiddo atom bob 3 mis.
Gallwch ddewis anfon diweddariadau yn amlach, er enghraifft, os ydych am ddeall sut mae derbyniadau neu dreuliau busnes sylweddol yn effeithio ar eich bil treth amcangyfrifedig. Bydd y rhan fwyaf o feddalwedd sy’n cydweddu yn eich galluogi i anfon diweddariad ar unrhyw ddiwrnod.
Os ydych yn dewis anfon diweddariadau yn amlach, bydd angen iddyn nhw gwmpasu’r cyfnod diweddaru yn ei gyfanrwydd. Er enghraifft, yn lle cyflwyno un diweddariad sy’n cwmpasu 6 Ebrill i 5 Gorffennaf, gallwch ddewis cyflwyno 3 diweddariad misol sy’n cwmpasu:
- 6 Ebrill i 5 Mai
- 6 Ebrill i 5 Mehefin
- 6 Ebrill i 5 Gorffennaf
Os nad ydych yn disgwyl y bydd gennych unrhyw drafodion pellach i’w cofnodi, gallwch anfon diweddariad hyd at 10 diwrnod cyn diwedd y cyfnod diweddaru. Er enghraifft, efallai eich bod yn mynd ar wyliau ac yn gwybod na fyddwch yn gweithio am weddill y cyfnod na chwaith yn cael incwm pellach.
Os oes gennych eiddo wedi’u hosod ar y cyd, gallwch ddewis cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol yn eich diweddariadau chwarterol:
-
cyfanswm yr holl incwm a threuliau o’r eiddo hynny
-
incwm o’r eiddo hynny yn unig, heb gynnwys y treuliau
Os ydych yn penderfynu peidio â chynnwys y treuliau hynny, mae’n rhaid i chi ddatgan yr wybodaeth hon ar ddiwedd y flwyddyn dreth cyn i chi gadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol.
Bydd yn dal i fod angen i chi gynnwys y canlynol yn eich diweddariadau chwarterol:
-
eich cyfran chi o’r incwm o’r eiddo hynny sydd wedi’u hosod ar y cyd Â
-
unrhyw incwm a threuliau sy’n ymwneud ag eiddo sydd o dan eich perchnogaeth chi yn unig
Ar ôl i chi gyflwyno’ch diweddariad chwarterol terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth, dylech wirio a oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau i’ch incwm busnes.