Creu cofnodion digidol

Sut i greu a chadw cofnodion digidol o’ch incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Mae angen i chi greu a chadw cofnodion digidol o’ch incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Mae’n rhaid i chi hefyd barhau i gadw cofnodion ar gyfer Hunanasesiad yn ôl yr arfer (yn agor tudalen Saesneg). Er enghraifft, mae’n dal i fod angen i chi gadw cofnodion gwreiddiol neu ddogfennau ategol (neu gopïau ohonynt) y gwnaethoch eu defnyddio i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Cyn creu eich cofnodion digidol, dylech wirio eich bod wedi dilyn yr holl gamau wrth gofrestru, gan gynnwys awdurdodi’ch meddalwedd.

Defnyddio meddalwedd ar gyfer cadw cofnodion digidol

Bydd angen i chi gael meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Gallwch ddewis defnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • un cynnyrch meddalwedd sy’n bodloni’ch holl anghenion
  • mwy nag un cynnyrch meddalwedd, a fydd yn bodloni’ch holl anghenion wrth ddefnyddio’r rhain gyda’i gilydd

Mae 2 brif fath o feddalwedd sy’n cydweddu:

  • meddalwedd sy’n creu cofnodion digidol ac sy’n gallu eu cyflwyno i CThEF
  • meddalwedd bontio sy’n cysylltu â’r meddalwedd rydych yn ei defnyddio i gadw cofnodion ar hyn o bryd (fel taenlen) ac sy’n gallu cyflwyno’r wybodaeth hon i CThEF

Os oes gennych asiant, dylech drafod eich opsiynau meddalwedd ag ef oherwydd efallai ei fod eisoes yn defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu.

Os ydych yn defnyddio meddalwedd bontio

Mae angen i chi gysylltu’r cofnodion sydd yn y feddalwedd rydych yn ei defnyddio i gadw cofnodion ar hyn o bryd i’ch meddalwedd bontio, yn ddigidol. Mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud hyn wrth i chi osod eich meddalwedd bontio cyn i chi allu gwneud y canlynol:

  • anfon eich diweddariadau chwarterol i CThEF
  • cyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Unwaith i chi greu cofnod digidol a’ch bod wedi’i anfon i CThEF yn eich diweddariad chwarterol, peidiwch â symud y cofnod â llaw o fewn eich meddalwedd cadw cofnodion nac ychwaith i feddalwedd arall. Er enghraifft, ni ddylech wneud y canlynol:

  • copïo gwybodaeth drwy ei hysgrifennu mewn cell arall neu mewn meddalwedd arall
  • defnyddio ‘torri a gludo’ neu ‘copïo a gludo’ i symud cofnodion

Sut i gysylltu’ch meddalwedd yn ddigidol

Mae sawl ffordd o gysylltu’ch cofnodion yn ddigidol, gan gynnwys:

  • defnyddio celloedd cysylltiedig mewn taenlenni — er enghraifft, os oes gennych fformiwla mewn un ddalen sy’n adlewyrchu gwerth y ffynhonnell mewn cell arall, a bod y celloedd hynny yn gysylltiedig â’i gilydd
  • e-bostio taenlen sy’n cynnwys cofnodion digidol er mwyn i’r wybodaeth gael ei mewngludo i feddalwedd arall
  • trosglwyddo set o gofnodion digidol i ddyfais gludadwy (er enghraifft, cof pìn, cof bach neu yriant fflach) a’u rhoi drwy law i rywun sy’n mewngludo’r data i’w feddalwedd ei hun
  • XML, mewngludo ac allgludo CSV, a lawrlwytho ac uwchlwytho ffeiliau
  • defnyddio proses o drosglwyddo data’n awtomataidd
  • defnyddio proses o drosglwyddo rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API)

Nid oes angen i chi gysylltu’r canlynol yn ddigidol:

  • cofnodion o incwm nad yw’n deillio o incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo — er enghraifft, incwm o ddifidendau neu incwm o gynilion
  • meddalwedd nad yw’n cael ei defnyddio i gadw cofnodion digidol o incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo — er enghraifft, meddalwedd sy’n cymryd archebion

Os ydych yn landlord sy’n rhoi eiddo ar osod ar y cyd, nid oes angen i chi gysylltu’ch cofnodion digidol chi i gofnodion y landord arall.

Cofnodion y bydd angen i chi eu cadw’n ddigidol

Dim ond cofnodion o’ch incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo y mae angen i chi eu creu a’u cadw yn ddigidol, er enghraifft:

  • incwm o hunangyflogaeth — gan gynnwys gwerthiannau, enillion a ffioedd
  • treuliau hunangyflogaeth — gan gynnwys cost stoc, costau teithio, costau swyddfa a chostau ariannol
  • incwm o eiddo — gan gynnwys rhent, premiymau am ganiatáu prydles, premiymau gwrthdro a chymelldaliadau
  • treuliau eiddo — gan gynnwys rhent, costau atgyweirio, cynnal a chadw neu wasanaethau eraill

Pan fyddwch yn creu cofnodion o’ch incwm neu dreuliau, bydd angen i chi gofnodi’r canlynol:

  • y swm
  • y dyddiad y cawsoch yr incwm, neu’r dyddiad yr aed i’r treuliau
  • y categori — yn dibynnu ar eich gofynion cadw cofnodion

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn defnyddio’r un categorïau o incwm a threuliau a ddefnyddir ar gyfer Hunanasesiad.

Os oes gennych fwy nag un busnes

Bydd angen i chi wneud y canlynol ar gyfer pob ffynhonnell incwm o hunangyflogaeth sydd gennych:

  • creu cofnodion digidol ar wahân
  • anfon diweddariadau chwarterol ar wahân

Er enghraifft, os ydych yn gweithio fel trydanwr ac yn gweithio fel hyfforddwr gyrru, dylech greu un set o gofnodion digidol ar gyfer pob un o’ch busnesau ar wahân.

Dylech greu cofnodion digidol ar wahân ar gyfer eich busnes eiddo yn y DU a’ch busnes eiddo tramor, os ydych yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth.

Bydd eich busnes eiddo yn cael eu trin fel y ganlyn:

  • bydd eiddo yn y DU yn cael eu trin fel un ‘busnes eiddo yn y DU’
  • bydd eiddo y tu allan i’r DU yn cael eu trin fel un ‘busnes eiddo tramor’

Bydd eich cyfran chi o unrhyw eiddo sy’n cael eu gosod ar y cyd yn ffurfio rhan o naill ai eich busnes eiddo yn y DU neu’ch busnes eiddo tramor.

Cofnodion y gallwch ddewis eu cadw’n ddigidol

Mae yna rai cofnodion nad oes angen i chi eu cadw’n ddigidol, ond gallwch ddewis gwneud hynny. Gall hyn eich helpu i gadw ar ben eich materion treth.

Ffynonellau eraill o incwm

Nid oes angen i chi greu cofnodion digidol ar gyfer y ffynonellau incwm eraill a ddatganwyd drwy Hunanasesiad, fel incwm o gyflogaeth (TWE), incwm o bartneriaeth neu incwm o ddifidendau (gan gynnwys o’ch cwmni eich hun).

Gallwch ddewis rhoi gwybod am y ffynonellau incwm hyn yn ystod y flwyddyn dreth drwy’ch meddalwedd sy’n cydweddu, os yw’ch meddalwedd yn eich galluogi i wneud hyn.

Treuliau na ellir eu caniatáu

Dyma’r treuliau nad ydynt at ddefnydd busnes yn unig, felly ni all yr holl draul gael ei hawlio yn eich Ffurflen Dreth.

Os ydych yn cadw cofnod o gyfran y draul na ellir ei chaniatáu, dylech barhau i gadw’r cofnodion hyn gan greu cofnodion digidol o’r symiau hyn yn eich meddalwedd.

Er enghraifft, mae gennych fil ffôn symudol sy’n dod i gyfanswm o £200. Mae’r bil yn cynnwys y canlynol:

  • £125 ar gyfer galwadau busnes
  • £75 ar gyfer galwadau personol (sef cyfran y draul na ellir ei chaniatáu)

Os byddwch yn dewis creu cofnod o’r gyfran na ellir ei chaniatáu, dylech greu cofnod digidol o’r canlynol:

  • y draul lawn, sef £200
  • y gyfran na ellir ei chaniatáu, sef £75

Treuliau symlach

Os ydych yn siŵr y byddwch yn defnyddio cynllun treuliau symlach, nid oes angen i chi greu cofnodion digidol o’ch treuliau gwirioneddol.

Os nad ydych yn siŵr, dylech greu cofnodion digidol o’ch holl dreuliau.

Darllenwch ragor am dreuliau symlach.

Trafodion sy’n rhannol yn gyfalaf ac sy’n rhannol yn refeniw

Os oes gennych drafodyn sy’n rhannol yn gyfalaf ac yn rhannol yn refeniw, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • cofnodi gwerth llawn y trafodyn (gan gynnwys yr elfennau cyfalaf) — dylech wedyn gwneud addasiad cyn i chi gadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol
  • creu cofnod digidol o swm y refeniw yn unig

Er enghraifft, os ydych yn gwneud taliad morgais, bydd angen i chi greu cofnod digidol o naill ai’r swm llan neu’r llog. Os byddwch yn creu cofnod o’r swm llawn, bydd angen i chi wneud addasiad cyn i chi gadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol.

Gofynion penodol o ran cadw cofnodion

Gallwch ddewis creu a chategoreiddio eich cofnodion digidol mewn ffordd benodol os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn rhoi eiddo ar osod ar y cyd â landlord arall
  • mae’ch trosiant o dan y trothwy ar gyfer TAW
  • rydych yn fanwerthwr

Darllenwch ragor am drothwyon TAW.

Gallwch hefyd ddarllen rhagor am yr hyn y mae’n rhaid i’ch cofnodion digidol ei gynnwys, a sut i greu a chadw’ch cofnodion gan droi at yr Hysbysiad cadw cofnodion digidol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn landlord sy’n rhoi eiddo ar osod ar y cyd

Bydd dim ond angen i chi greu cofnodion digidol sy’n berthnasol i’ch cyfran chi o’r incwm a threuliau o’ch eiddo sydd wedi’u rhoi ar osod ar y cyd.

Er mwyn symleiddio’ch cofnodion, gallwch ddewis gwneud y canlynol:

  • creu cofnodion digidol llai manwl ar gyfer yr incwm a threuliau o’ch eiddo sydd wedi’u rhoi ar osod ar y cyd
  • peidio â chynnwys treuliau sy’n berthnasol i’ch eiddo sydd wedi’u rhoi ar osod yn eich diweddariadau chwarterol — bydd angen i chi gynnwys yr wybodaeth hon pan fyddwch yn cadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol ar ddiwedd y flwyddyn dreth, cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Ar gyfer eiddo sydd wedi’u rhoi ar osod ar y cyd yn unig, bydd creu cofnodion digidol llai manwl yn golygu:

  • creu cofnod digidol unigol ar gyfer pob categori o incwm o eiddo rydych yn ei gael yn ystod cyfnod diweddaru
  • creu cofnod digidol unigol ar gyfer pob categori o draul o eiddo yr aed iddi yn ystod cyfnod diweddaru

Er enghraifft, gall landlord sy’n rhoi eiddo ar osod ar y cyd wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • creu 3 chofnod digidol yn dangos bod £1,000 o rent wedi dod i’w law pob mis
  • creu un cofnod digidol unigol ar gyfer y chwarter, yn dangos bod £3,000 wedi dod i’w law.

Categoreiddio symlach os yw’ch trosiant yn is na’r trothwy ar gyfer TAW

Gallwch ddewis categoreiddio eich cofnodion digidol yn llai manwl os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • mae cyfanswm eich incwm o eiddo yn y DU yn llai na £90,000 cyn treuliau (bydd hyn hefyd yn berthnasol os ydych yn landlord sy’n rhoi eiddo ar osod ar y cyd)
  • mae cyfanswm eich incwm o hunangyflogaeth yn llai na £90,000 cyn treuliau

Os oes gennych fwy nag un ffynhonnell incwm, gallwch dim ond defnyddio’r broses o gategoreiddio symlach ar gyfer y ddwy ffynhonnell os yw’ch trosiant yn is na’r trothwy ar gyfer TAW ar gyfer y ddau incwm.

Os ydych yn unig fasnachwr, bydd dim ond angen i chi gofnodi a yw trafodyn yn incwm neu’n draul.

Os ydych yn landlord ac yn cael incwm o eiddo preswyl, bydd angen i chi gategoreiddio eich treuliau yn fwy manwl, hyd yn oes os yw’ch trosiant yn is na’r trothwy. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Cofnodi a yw trafodyn yn incwm neu’n draul.

  2. Os yw’n drafodyn, dylech gofnodi a yw’r draul ar gyfer costau  ariannol preswyl (yn agor tudalen Saesneg).

Os yw’ch trosiant yn mynd dros y trothwy ar gyfer TAW yn nes ymlaen

Os bydd eich trosiant yn mynd dros £90,000, bydd angen i chi gategoreiddio’r holl gofnodion digidol ar gyfer y ffynhonnell incwm honno yn llawn, gan gynnwys y cofnodion:

  • o ddechrau’r flwyddyn dreth bresennol
  • yn y flwyddyn dreth ganlynol

Os na fyddwch yn categoreiddio’ch cofnodion ar gyfer y ffynhonnell incwm honno yn llawn, ni fydd modd i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Os nad ydych yn siŵr a fydd eich trosiant yn mynd dros £90,000, dylech gategoreiddio’ch cofnodion digidol yn fanwl.

Os ydych yn fanwerthwr

Gallwch ddewis creu cofnod digidol o’ch enillion gros dyddiol, yn hytrach na chofnodi’r gwerthiannau unigol rydych yn eu gwneud.

Darllenwch ragor am greu cofnodion digidol o werthiannau manwerthu (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn y dylech ei wneud ar ddechrau’r flwyddyn dreth

Mae rhai penderfyniadau y dylech ystyried eu gwneud ar ddechrau’r flwyddyn dreth, hyd yn oed os ydych, fel arfer, yn gwneud y penderfyniadau hynny ar ôl i’r flwyddyn dreth ddod i ben.

Ystyried newid eich cyfnod cyfrifyddu

Bydd eich meddalwedd yn defnyddio cyfnod cyfrifyddu sy’n cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) yn ddiofyn.

Os oes gennych gyfnod cyfrifyddu sy’n dod i ben ar 31 Mawrth pob blwyddyn, dylech sicrhau eich bod wedi dewis ‘cyfnodau diweddaru calendr’ yn eich meddalwedd. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i chi gadw cofnodion.

Ystyried pa ddull cyfrifyddu i’w ddefnyddio

Mae’n bosibl y byddwch am ystyried pa ddull cyfrifyddu y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer cadw eich cofnodion. Byddwch yn defnyddio’r naill ddull neu’r llall:

Dewis sut i gategoreiddio’ch cofnodion

Mae’n bosibl y byddwch am ddefnyddio dull symlach o gategoreiddio ar gyfer eich cofnodion digidol, a hynny os ydych yn gymwys i ddefnyddio’r dull hwn.

Dewis a ydych am ddefnyddio camau symleiddio ar gyfer eich eiddo sy’n cael eu rhoi ar osod ar y cyd

Mae’n bosibl y byddech am greu cofnodion llai manwl, neu beidio â chynnwys treuliau yn eich diweddariadau chwarterol. Gall y camau symleiddio hyn dim ond cael eu defnyddio ar gyfer eiddo yr ydych yn eu rhoi ar osod ar y cyd â landlord arall.

Pryd i greu cofnodion digidol

Bydd angen i chi greu cofnodion digidol am gyfnod chwarterol cyn y naill neu’r llall o’r canlynol:

Er enghraifft, bydd angen i chi greu cofnod digidol o’r incwm a gewch ar 30 Ebrill cyn (pob un o’r canlynol):

  • eich bod yn anfon eich diweddariad chwarterol cyntaf
  • 5 Awst — sef, y dyddiad cau ar gyfer y diweddariad hwnnw

Dylech greu cofnodion digidol mor agos at ddyddiad y trafodyn â phosibl. Bydd hyn yn eich helpu i gael argraff fwy cyfredol o’ch materion busnes.

Yn ystod y cyfnod profi, os byddwch yn cofrestru rhan o’r ffordd drwy’r flwyddyn dreth, ni fydd angen i chi ‘dal i fyny’ ar eich cofnodion digidol yn syth gan nad yw’r cosbau am gyflwyno diweddariadau chwarterol yn hwyr yn berthnasol. Darllenwch ragor am ‘dal i fyny’ os bydd eich amgylchiadau’n newid.

Os ydych yn landlord sy’n rhoi eiddo ar osod ar y cyd

Os ydych wedi dewis peidio â chynnwys treuliau sy’n berthnasol i’ch eiddo sydd wedi’u rhoi ar osod ar y cyd yn eich diweddariadau chwarterol, nid oes angen i chi greu cofnodion digidol ar gyfer y treuliau hynny pob chwarter.

Fodd bynnag, bydd angen i chi greu cofnodion digidol o’r treuliau hynny cyn i chi gadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol. Bydd angen i chi ail-anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol, a chynnwys y cofnodion hyn, cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Os ydych yn cael gwybod am eich incwm net yn unig

Os ydych dim ond yn cael gwybod am eich incwm ar ôl i’r treuliau gael eu didynnu (incwm net), bydd angen i chi wneud y canlynol.

  1. Gofyn beth oedd cyfanswm yr incwm cyn didynnu treuliau.

  2. Creu cofnod digidol ar gyfer cyfanswm yr incwm.

  3. Creu cofnod digidol ar gyfer eich treuliau.

Os yw ymddiriedolaeth neu bartneriaeth yn rhoi gwybod i chi am eich incwm o hunangyflogaeth neu eiddo

Os bydd ymddiriedolaeth neu bartneriaeth yn rhoi gwybod i chi am eich incwm o hunangyflogaeth neu eiddo ar ôl y dyddiadau cau ar gyfer diweddariadau chwarterol, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • amcangyfrif eich incwm neu dreuliau, a chadarnhau’r ffigurau cywir yn nes ymlaen
  • cofnodi’r incwm neu dreuliau unwaith i chi gael gwybod amdanynt

Os ydych yn amcangyfrif eich incwm neu dreuliau

Dylech wneud y canlynol:

  1. Creu cofnod digidol ar gyfer y trafodyn.

  2. Diweddaru’r cofnod digidol pan fydd yr incwm neu’r treuliau wedi’u cadarnhau.

Yna, bydd y swm hwnnw yn cael ei gynnwys yn eich diweddariad chwarterol nesaf.

Os ydych eisoes wedi anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol, bydd angen i chi ei ail-anfon a chynnwys  yr incwm neu’r treuliau wedi’u cadarnhau.

Os ydych yn cofnodi’r incwm neu’r treuliau unwaith y bydd wedi’u cadarnhau

Dylech wneud y canlynol:

  1. Anfon Ffurflen TAW ‘dim’ yn ystod y flwyddyn dreth os nad oes gennych incwm busnes arall.

  2. Creu cofnod digidol ar gyfer yr incwm neu dreuliau unwaith i chi gael gwybod amdanynt.

Yna, bydd y swm hwnnw yn cael ei gynnwys yn eich diweddariad chwarterol nesaf.

Os ydych eisoes wedi anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol, bydd angen i chi ei ail-anfon a chynnwys  yr incwm neu’r treuliau wedi’u cadarnhau.

Bydd angen i chi gadarnhau eich cofnodion digidol yn derfynol cyn i chi gyflwyno eich Ffurflen TAW.

Cywiro’ch cofnodion digidol

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gywiro’ch cofnodion digidol os:

  • gwnaethoch gamgymeriad wrth greu cofnod digidol
  • gwnaethoch anghofio cofnodi incwm a gawsoch, neu dreuliau yr aed iddynt

I gywiro’ch cofnodion, efallai y bydd angen i chi newid, dileu neu greu cofnod digidol. Os byddwch yn gwneud cywiriad yn ystod y flwyddyn dreth. bydd angen i chi nodi hyn wrth i chi gyflwyno’ch diweddariad chwarterol nesaf.

Os oes gennych asiant sy’n delio â chadw eich cofnodion, gall wneud hyn ar eich rhan.

Os ydych chi’n defnyddio meddalwedd sy’n eich galluogi i greu cofnodion digidol, gallwch fynd ati i wneud y cywiriad yn eich meddalwedd.

Os ydych yn creu cofnodion digidol mewn meddalwedd ar wahân sy’n creu cofnodion (fel taenlen), dylech wneud y cywiriad yn y feddalwedd honno a’i chysylltu’n ddigidol i’ch cofnodion yn eich meddalwedd bontio.

Os ydych eisoes wedi anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol, gallwch ddewis gwneud y cywiriad drwy ddefnyddio’r naill ddull neu’r llall:

  • cywiro’r cofnod digidol ac ail-anfon eich diweddariad chwarterol (mae’n bosibl y bydd gwneud hyn yn haws os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord sy’n cadw ei gofnodion digidol ei hun)
  • addasu cyfanswm y categori yn eich meddalwedd sy’n cydweddu, gan wneud yn siŵr bod yr wybodaeth hon yn cael ei nodi yn eich cofnodion digidol hefyd (os oes gennych asiant, mae’n bosibl y gall wneud y cywiriad fel hyn, a gofyn i chi ddiweddaru eich cofnodion)

Pryd i gywiro cofnodion digidol

Os ydych yn darganfod gwall neu hepgoriad yn eich cofnodion digidol, dylech wneud cywiriad cyn gynted â phosibl.

Ar ôl gwneud cywiriad, bydd angen i chi nodi hyn wrth i chi gyflwyno’ch diweddariad chwarterol nesaf.

Os ydych eisoes wedi anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol, bydd angen i chi wneud unrhyw gywiriadau cyn i chi gadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol.

Pa mor hir y bydd angen i chi gadw eich cofnodion digidol

Bydd angen i chi gadw eich cofnodion digidol am o leiaf 5 mlynedd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer blwyddyn dreth, sef 31 Ionawr. Dyma’r un faint o amser y dylech gadw cofnodion Hunanasesiad.

Os ydych yn penderfynu newid eich meddalwedd

Mae’n dal i fod angen i chi gadw eich cofnodion digidol am y cyfnod cywir o amser os ydych chi’n newid eich meddalwedd.

Dylech hefyd sicrhau y gallwch gael mynediad i’ch cofnodion digidol o flynyddoedd treth blaenorol. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen i chi allgludo eich cofnodion digidol o’ch hen feddalwedd a’u cadw’n ddiogel.

Os byddwch yn newid eich asiant, bydd angen i chi ofyn am eich cofnodion digidol o flynyddoedd treth blaenorol, a’u cadw.

Os ydych yn newid eich meddalwedd yn ystod blwyddyn dreth

Os ydych yn defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i greu cofnodion digidol, bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • mewngludo’ch cofnodion digidol i’ch meddalwedd newydd sy’n cydweddu ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
  • ail-greu’r cofnodion yn eich meddalwedd newydd

Os ydych chi’n defnyddio meddalwedd bontio, bydd angen i chi gysylltu’r feddalwedd bontio newydd i’ch meddalwedd sy’n cadw cofnodion.

Os ydych yn newid eich meddalwedd ar ôl diwedd blwyddyn dreth

Nid oes angen i chi fewngludo eich cofnodion digidol o flynyddoedd treth blaenorol i’r feddalwedd newydd.

Fodd bynnag, dylech barhau i gadw’ch cofnodion digidol o flynyddoedd treth blaenorol yn ddiogel, a chadw’r gallu i gael mynediad atynt.

Yr hyn i’w wneud nesaf

Ar ôl i chi ddewis sut y byddwch yn creu ac yn cadw’ch cofnodion digidol, dylech wirio pryd y mae angen i chi anfon y diweddariadau at CThEF.