Back to contents

Updates: Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

2025

16 April 2025 published amendments

Cyflwyniad

Mae’r wybodaeth mewn perthynas â phryd mae angen i unig fasnachwyr a landlordiaid ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol (MTD) yn seiliedig ar drothwyon incwm cymhwysol (£50,000+, £30,000+, a £20,000+) wedi’i diweddaru. Mae esboniad ynghylch incwm cymhwysol a beth sydd heb ei gynnwys, ac opsiynau cofrestru cynnar wedi’u hychwanegu.

Cofrestru

Mae’r adran hon wedi’i hailstrwythuro. Enw blaenorol yr adran oedd ‘Cyn i chi gofrestru’ ac mae hi bellach yn cynnwys gwybodaeth gliriach ynglŷn â rolau a chyfrifoldebau’r unigolion â’r asiantau. Mae’r adran hon nawr yn esbonio rhagor am y gofynion ar gyfer defnyddio cyfrif gwasanaethau asiant, ystyriaethau o ran meddalwedd, ac awdurdodiadau.

Ar ôl i chi gofrestru

Mae’r adran hon wedi’u hailstrwythuro er mwyn bod yn fwy eglur o ran sut mae cael mynediad at y gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol (MTD) drwy ddefnyddio cyfrif ar-lein CThEF ar gyfer unigolion ac asiantau. Mae nodweddion y cyfrif wedi’u hehangu i gynnwys hawlio ad-daliadau, addasu taliadau, a bwrw golwg dros statws ad-daliad. Mae manylion y tîm cymorth i gwsmeriaid wedi’u symud i’r adran ‘Help a chymorth’.

Creu cofnodion digidol

Mae gwybodaeth wedi’u hychwanegu ynghylch y cofnodion y mae angen i chi eu cadw, pryd mae angen eu cadw, gofynion penodol o ran y cofnodion hynny, a sut i gategoreiddio eich cofnodion os ydych yn landlord sydd ag eiddo wedi’i osod ar y cyd. Mae gwybodaeth am yr hyn sydd angen i chi gofnodi yn eich cofnodion digidol wedi’u gwneud yn eglur. Mae gwybodaeth wedi’i hychwanegu am yr hyn sydd angen i chi ei wneud er mwyn cywiro eich cofnodion digidol.

Anfon diweddariadau chwarterol

Mae gwybodaeth wedi’i hychwanegu i esbonio beth fydd yn cael ei anfon i CThEF yn eich diweddariadau chwarterol ac, os ydych wedi gwneud addasiad, nad oes angen i chi ail-anfon eich diweddariadau chwarterol ar wahân. Mae gwybodaeth ynghylch anfon diweddariadau’n amlach na phob chwarter a gwybodaeth ynghylch pa mor hir cyn diwedd cyfnod diweddaru y gallwch anfon diweddariad os ydych yn gwybod na fyddwch yn cael incwm am weddill y cyfnod hynny. Mae gwybodaeth ar gyfer landlordiaid sydd ag eiddo wedi’i osod ar y cyd wedi cael ei hychwanegu.

Addasu’ch incwm busnes

Mae gwybodaeth am addasu cyfansymiau’r categori wedi’i diweddaru i ddangos esiamplau clir ar gyfer addasiadau cyfrifyddu os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol. Mae gwybodaeth am sut i hawlio lwfans masnachu neu lwfans eiddo yn eich cofnodion wedi’u gwneud yn eglur a’r hyn y bydd angen i chi ei wneud yn eich meddalwedd os oes gennych hawliad lwfans cyfalaf wedi’u hychwanegu.

Cadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol

Mae gwybodaeth wedi’i gwneud yn eglur am beth fydd yn digwydd ar ôl chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid

Mae gwybodaeth am ‘Yr hyn i’w wneud os byddwch yn cofrestru yn ystod y flwyddyn dreth’ wedi’i hychwanegu (a oedd yn y ‘Rhagarweiniad’ yn flaenorol) sy’n esbonio’r opsiynau ar gyfer ‘dal i fyny’ gyda’ch cofnodion digidol a diweddariadau chwarterol pan fyddwch yn ymuno gyda’r gwasanaeth yng nghanol y flwyddyn.

Help a chymorth

Mae gwybodaeth wedi’i hailstrwythuro i wneud yn eglur yr opsiynau o ran cefnogaeth i’r rheiny sydd wedi cofrestru a’r rheiny sydd heb gofrestru. Mae manylion y tîm cymorth i gwsmeriaid penodedig (a oedd yn yr adran ‘Ar ôl i chi gofrestru’ yn flaenorol) wedi’i symud i’r adran hon. Mae cysylltiadau at ganllawiau cam wrth gam gwell ar gyfer unigolion neu asiantau wedi’u hychwanegu i helpu defnyddwyr ddeall sut i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y drefn gywir.

15 January 2025 published amendments

Cadarnhau eich sefyllfa Treth Incwm yn derfynol

Mae’r arweiniad wedi’i ddiweddaru i esbonio nad yw’n bosibl defnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF am weddill blwyddyn dreth 2024 i 2025 a blwyddyn dreth 2025 i 2026 sydd i ddod. Hefyd, mae’n rhoi gwybod i ddefnyddwyr beth i’w wneud os nad yw’r feddalwedd y maen nhw’n ei defnyddio ar hyn o bryd yn cefnogi cyflwyno ffynonellau incwm personol.

9 January 2025 published amendments

Os bydd eich amgylchiadau’n newid

Adran newydd wedi’i hychwanegu.

2024

27 November 2024 published amendments

Rhagarweiniad

Mae gwybodaeth wedi cael ei hychwanegu ynghylch sut i ‘dal i fyny’ ar eich cofnodion digidol a’ch diweddariadau chwarterol yn ystod y flwyddyn dreth.

Creu cofnodion digidol

Mae gwybodaeth wedi cael ei hychwanegu ynghylch sut i ‘dal i fyny’ gyda’ch cofnodion digidol a’ch diweddariadau chwarterol yn ystod y flwyddyn dreth.

Anfon diweddariadau chwarterol

Mae gwybodaeth wedi cael ei hychwanegu ynghylch sut i ‘dal i fyny’ ar eich cofnodion digidol a’ch diweddariadau chwarterol yn ystod y flwyddyn dreth.

8 October 2024 published amendments

Rhagarweiniad

Diweddariadau i’r arweiniad er mwyn dileu hen wybodaeth am y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Cyn i chi gofrestru

Mae’r adran hon wedi’i hail-deitlo ac mae’r wybodaeth ar yr hyn y dylech ei wneud a’i ddisgwyl cyn ymuno wedi’i diweddaru.

Ar ôl i chi gofrestru

Adran newydd wedi’i ychwanegu.

Creu cofnodion digidol

Diweddarwyd yr wybodaeth am y cofnodion y gallwch ddewis eu cadw’n ddigidol.

Anfon diweddariadau chwarterol

Mae’r wybodaeth wedi’i diweddaru i gadarnhau’r hyn y mae angen i chi ei wneud os ydych am newid o gyfnodau diweddaru calendr i gyfnodau diweddaru safonol.

Cadarnhau eich sefyllfa Treth Incwm yn derfynol

Mae’r wybodaeth wedi’i diweddaru i gadarnhau bod yn rhaid i chi anfon gwybodaeth i CThEF am ffynonellau incwm personol cyn i chi wneud eich datganiad terfynol.

Help a chymorth

Mae’r arweiniad wedi’i ddiweddaru er mwyn adlewyrchu’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i’r sawl sydd wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ac i’r sawl sydd heb gofrestru eto.

22 July 2024 published amendments

Rhagarweiniad

New section added.

Dechrau arni

New section added.

Cadw cofnodion digidol

New section added.

Anfon diweddariadau chwarterol

New section added.

Gwneud unrhyw addasiadau i’ch incwm busnes

New section added.

Cadarnhau eich sefyllfa treth incwm yn derfynol

New section added.

Help a chymorth

New section added.