Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
Sut mae鈥檔 gweithio
Gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA) i鈥檆h helpu pan fyddwch chi鈥檔 chwilio am waith.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Ni allwch wneud cais am JSA yn seiliedig ar incwm mwyach. Os ydych yn cael JSA yn seiliedig ar incwm ar hyn o bryd, byddwch yn dal i gael taliadau tra鈥檆h bod yn gymwys nes i鈥檆h cais ddod i ben.
Gallech gael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu鈥檔 lle JSA Dull Newydd. Gwiriwch a ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol.
Beth sydd angen i chi ei wneud
-
Gwnewch gais am JSA Dull Newydd ac ewch i gyfweliad yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol.
-
Cadwch at eich cytundeb i chwilio am waith. Gelwir y cytundeb hwn yn 鈥榊mrwymiad Hawlydd鈥� a byddwch yn ei greu yn eich apwyntiad.
Bydd eich taliadau JSA yn cael eu lleihau neu eu stopio os nad ydych yn cadw i鈥檆h cytundeb i chwilio am waith ac yn methu rhoi rheswm da.
Beth fyddwch yn ei gael
Mae uchafswm y gallech ei gael 鈥� ond mae faint a gewch yn ddibynnol ar bethau fel eich oedran.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio faint o JSA y gallwch ei gael, a sut caiff eich budd-daliadau eraill eu heffeithio.
Oedran | Swm Wythnosol JSA |
---|---|
Hyd at 24 oed | hyd at 拢72.90 |
25 oed neu drosodd | hyd at 拢92.05 |
Sut y cewch eich talu
Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans fel arfer yn cael eu talu i鈥檆h cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Eich taliad cyntaf
Efallai bydd angen i chi aros hyd at 7 diwrnod ar 么l gwneud cais i鈥檆h JSA ddechrau, a hyd at 2 wythnos ar 么l hynny i dderbyn eich taliad cyntaf.
Efallai na fydd eich taliad y swm llawn.
Ar 么l eich taliad cyntaf
Fel arfer bydd y taliadau鈥檔 cael eu gwneud bob 2 wythnos ac mi fyddant y swm llawn.
Os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o JSA yn seiliedig ar incwm
Os yw鈥檆h cais JSA yn seiliedig ar incwm yn dod i ben oherwydd eich bod yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael y swm o JSA rydych yn ei gael ar hyn o bryd yn awtomatig, cyn belled 芒鈥檆h bod yn parhau i fod yn gymwys. Fel arfer fe gewch hyn am 2 wythnos, gan ddechrau o ddyddiad eich cais newydd.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ysgrifennu atoch yn dweud wrthych sut mae hyn yn gweithio.
Nid oes angen i chi dalu鈥檙 arian hwn yn 么l, ac ni fydd yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.