Sut i brisio ystad at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth
Amcangyfrif gwerth yr ystad
Bydd angen amcangyfrif arnoch o werth yr ystâd (arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig) er mwyn canfod a oes Treth Etifeddiant i’w thalu.
Fel arfer, does dim Treth Etifeddiant i’w thalu os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:
- mae gwerth yr ystâd o dan y trothwy, sef £325,000
- rydych yn gadael popeth sydd uwchben y trothwy o £325,000 i’ch priod, partner sifil, elusen, neu glwb chwaraeon amatur cymunedol
Os mai gweddw oedd y person a fu farw, neu os yw’n rhoi ei gartref i ffwrdd i’w blant, gall y trothwy treth fod yn uwch.
Cyfrifo’ch amcangyfrif
Bydd angen i chi amcangyfrif cyfanswm gwerth yr ystâd. Mae hyn yn cynnwys:
- gwerth y pethau yr oedd y person yn berchen arnynt (ei asedion) ar y diwrnod y bu farw
- unrhyw roddion a wnaeth, megis arian parod neu eitemau gwerthfawr, yn ystod y 7 mlynedd cyn marw
- gwerth unrhyw ymddiriedolaethau yr oedd gan y person fuddiant llesiannol ynddynt
Bydd eich amcangyfrif yn eich helpu i wirio a yw gwerth yr ystâd yn fwy na’r trothwy. Os yw’n fwy na’r trothwy, bydd angen i chi ddarparu prisiadau ar gyfer yr asedion i weld faint o Dreth Etifeddiaeth sy’n ddyledus.
Gallwch gyfrifo’r amcangyfrif eich hun, neu gallwch ddefnyddio’r gwiriwr Treth Etifeddiant.
Gwirio a oes angen i chi dalu Treth Etifeddiant
Bydd yr offeryn hwn yn gwneud y canlynol:
-
rhoi amcangyfrif i chi o werth yr ystad
-
eich helpu i benderfynu a oes unrhyw Dreth Etifeddiant yn debygol o fod yn ddyledus ai peidio
Ni fydd yr offeryn hwn yn gwneud y canlynol:
-
cyfrifo swm y Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus
-
rhoi gwybod i CThEF am werth terfynol yr ystad
Gallwch gadw ac argraffu eich canlyniadau unwaith i chi ateb yr holl gwestiynau.
Cyn i chi ddechrau, bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:
- manylion asedion y person, gan gynnwys asedion ar y cyd
- manylion unrhyw roddion a wnaeth
Prisio’r asedion
Dechreuwch drwy restru asedion y person – y pethau yr oedd yn berchen arnynt yr oedd gwerth ariannol iddynt. Yna, cyfrifwch neu amcangyfrifwch werth pob un ar y dyddiad y bu farw’r person.
Gallai’r rhain gynnwys:
-
ei gartref
-
unrhyw eiddo arall, adeiladau eraill neu dir arall
-
arian mewn banciau, cymdeithasau adeiladu neu gyfrifon ISA, neu arian parod yn ei gartref
-
stociau a chyfranddaliadau
-
eitemau i’r tŷ ac eitemau personol, gan gynnwys hynafolion, nwyddau trydanol, dodrefn, gemwaith, paentiadau a chasgliadau o stampiau
-
ceir, carafannau neu gychod
-
asedion tramor, megis eiddo tramor
-
arian sy’n ddyledus iddo – er enghraifft, cyflogau neu ad-daliadau o filiau’r cartref
-
taliadau pan fu farw’r person – er enghraifft, yswiriant bywyd neu gyfandaliad ‘buddiant marwolaeth’ o bensiwn
Dylech gynnwys pob ased yn eich amcangyfrif. Mae hyn yn cynnwys unrhyw asedion oedd wedi’u gadael i briod neu bartner sifil y person, neu i elusen – ni fyddwch yn talu treth ar yr asedion hyn.
Am bethau fel cyfrifon banc, cyfrifon ISA a phensiynau, dylech gysylltu â’r sefydliad perthnasol er mwyn cael ffigur manwl gywir.
Ar gyfer eitemau fel ceir, gemwaith a phaentiadau, cyfrifwch faint y byddech wedi’i gael pe byddech wedi’u gwerthu. Gallwch chwilio am eitemau tebyg ar farchnadoedd ar-lein i wneud hyn.
Prisio asedion ar y cyd
Mae angen i chi ganfod pa asedion yr oedd y person yn berchen arnynt ar y cyd â rhywun arall, a sut y perchenogwyd yr asedion hynny.
Mae’r rheolau ar gyfer prisio asedion ar y cyd, megis eiddo, gemwaith neu baentiadau, yn amrywio yn dibynnu a oedd y bobl dan sylw yn berchen arnynt fel:
- ‘cyd-denantiaid’ (‘cydberchnogion’ yn yr Alban)
- ‘tenantiaid cydradd’ (‘perchnogion cydradd’ yn yr Alban)
Cyd-denantiaid
Mae cyd-denantiaid yn trosglwyddo unrhyw asedion, megis tir neu eiddo, yn awtomatig i’r perchnogion eraill os bydd un ohonynt yn marw.
Os perchenogwyd yr ased, megis tir neu eiddo, fel cyd-denant gyda phriod neu bartner sifil y person, rhannwch werth yr ased â 2.
Os perchenogwyd y tir neu’r eiddo gyda chyd-denantiaid eraill, er enghraifft ffrindiau, brodyr neu chwiorydd, gwnewch y naill a’r llall o’r canlynol:
- rhannu’r gwerth â nifer y perchnogion
- didynnu 10% oddi wrth gyfran y person a fu farw
Enghraifft
Roedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo fel cyd-denant gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw £200,000 ar y dyddiad y bu farw, sy’n rhoi cyfran o £50,000 iddo (£200,000 wedi’u rhannu â 4).
Ar ôl didynnu 10% (£5,000) oddi wrth gyfran £50,000 yr ymadawedig, y gwerth terfynol yw £45,000 (£50,000 - £5,000 = £45,000).
Yn yr Alban, os perchenogwyd tir neu eiddo ar y cyd â phobl eraill (ac eithrio priod neu bartner sifil), didynnwch £4,000 oddi wrth werth yr ased cyfan cyn cyfrifo cyfran yr ymadawedig.
Enghraifft
Roedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo yn yr Alban fel cydberchennog gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw £200,000 ar y dyddiad y bu farw.
Ar ôl i £4,000 gael eu didynnu oddi wrth gyfanswm gwerth yr eiddo, mae £196,000 yn weddill (£200,000 - £4,000).
Ar ôl rhannu hyn â nifer y perchnogion, cyfran yr ymadawedig o’r eiddo yw £49,000 (£196,000 wedi’u rhannu â 4).
Er mwyn prisio cyfrif banc ar y cyd, rhannwch y swm â nifer y deiliaid cyfrif, oni bai bod y cyfrif yn un ar y cyd er cyfleustra yn unig. Er enghraifft, efallai y bydd person hŷn yn ychwanegu ei blentyn er mwyn ei helpu gyda’r cyfrif. Os felly, defnyddiwch y swm yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno mewn gwirionedd yn lle hynny.
Tenantiaid cydradd
Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer tenantiaid cydradd, gan nad yw tenantiaid cydradd yn trosglwyddo unrhyw asedion y maent yn berchen arnynt ar y cyd yn awtomatig.
Os oedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo neu dir ar y cyd fel tenant cydradd, cyfrifwch y gwerth yn seiliedig ar ei gyfran.
Cyfrifo gwerth unrhyw roddion
Mae angen i chi gyfrifo gwerth unrhyw roddion a wnaed gan y person a fu farw.
Dim ond os gwnaed y rhoddion yn ystod y 7 mlynedd cyn i’r person farw a dim ond os oedd cyfanswm gwerth y rhoddion dros yr esemptiad blynyddol o £3,000 y mae rhoddion yn cyfrif tuag at werth ystad.
Os bydd person yn byw am 7 mlynedd ar ôl gwneud rhodd, ni fydd Treth Etifeddiant i’w thalu.
Mae unrhyw rodd yr oedd person yn parhau i gael budd ohoni cyn iddo farw hefyd yn cyfrif tuag at werth ystad – er enghraifft, os gwnaeth y person roi tŷ i ffwrdd ond roedd yn byw ynddo’n ddi-rent (yr enw ar hyn yw ‘rhodd â budd amodol’).
Does dim Treth Etifeddiant i’w thalu ar roddion i elusennau neu bleidiau gwleidyddol.
Yr hyn sy’n cyfrif fel rhodd
Gall rhodd gynnwys:
- arian
- nwyddau’r tŷ a nwyddau personol, er enghraifft dodrefn, gemwaith neu hynafolion
- tÅ·, tir neu adeiladau
- stociau a chyfranddaliadau sydd wedi’u rhestru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain
- cyfranddaliadau heb eu rhestru, a ddaliwyd am lai na 2 flynedd cyn i’r person farw
Gwirio am roddion
Gallwch wirio am roddion drwy wneud y canlynol:
- darllen drwy gyfriflenni banc
- siarad ag aelodau o’r teulu
- edrych drwy ddogfennau ariannol
Cofnodwch werth unrhyw rodd a’r dyddiad rhoddi.
Amcangyfrif gwerth y rhodd
Er mwyn amcangyfrif gwerth pob rhodd, defnyddiwch y naill neu’r llall o’r canlynol:
- amcangyfrif o werth y rhodd ar yr adeg y cafodd ei rhoi (pris gwerthu realistig)
- pris realistig ar gyfer gwerthu’r rhodd, os oedd yr ymadawedig yn parhau i gael budd o’r rhodd ar ôl ei rhoi i ffwrdd (sef ‘rhodd â budd amodol’)
Dyledion
Peidiwch â chynnwys dyledion yr ystad wrth amcangyfrif y gwerth gros. Fodd bynnag, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am unrhyw ddyledion wrth roi gwybod am werth yr ystad.
Gwiriwch am gofnodion o ddyledion pan fu farw’r person, er enghraifft:
- ei forgais, benthyciadau, cardiau credyd neu orddrafftiau
- ‘rhwymedigaethau’ megis biliau’r cartref neu filiau am nwyddau neu wasanaethau yr oedd y person wedi’u cael ond heb dalu amdanynt eto (megis gwaith adeiladu, peintwyr a phapurwyr, cyfrifwyr)
Yr hyn i’w wneud nesaf
Gwiriwch a oes angen i chi anfon manylion llawn am werth yr ystad.