Nodi asedion a dyledion

Cyn i chi allu prisio arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig (ei ystad), bydd angen i chi nodi’r pethau yr oedd yn berchen arnynt (ei asedion) a’i ddyledion.

Mae asedion yn cynnwys pethau fel cyfrifon banc, cynilion a phensiynau, yn ogystal ag eiddo, nwyddau i’r tŷ ac eitemau personol.

Mae dyledion yn cynnwys pethau fel biliau cyfleustodau, morgeisi ac arian sy’n ddyledus ar gardiau credyd. Maent hefyd yn cynnwys costau angladd, megis cost trefnydd angladdau, carreg fedd neu blac a lluniaeth.

Yna, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

Pa sefydliadau y dylid cysylltu â nhw

Mae sefydliadau sy’n dal asedion yn aml yn cynnwys:

  • banc y person
  • darparwr pensiwn y person – gofynnwch a ddylech gynnwys pensiwn preifat pan fyddwch yn prisio’r ystad
  • cyflogwr y person – mae’n bosibl bod cyflogau’n ddyledus i’r person
  • unrhyw gwmnïau yr oedd gan y person gyfranddaliadau ynddynt – dylech gynnwys nifer y cyfranddaliadau, manylion y cwmni a rhif tystysgrif y cyfranddaliadau (os oes gennych hwn)
  • Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) ar gyfer Bondiau Premiwm – defnyddiwch y os na allwch ddod o hyd i dystysgrifau
  • sefydliadau eraill sy’n dal asedion fel cyfrifon ISA, cyfranddaliadau, buddsoddiadau neu asedion mewn ymddiriedolaeth (yn agor tudalen Saesneg)
  • y landlord, os oedd gan y person un – efallai ei fod wedi talu rhent ymlaen llaw

Yn eich llythyr i’r banc, dylech hefyd holi ynghylch:

  • unrhyw archebion sefydlog a debydau uniongyrchol sydd i’w stopio (neu sydd i’w trosglwyddo os oeddent mewn enw ar y cyd)
  • rhestr o unrhyw dystysgrifau cyfranddaliadau neu weithredoedd yr oedd y banc yn eu dal ar ran y person a fu farw

Os oedd gan y person forgais

Gofynnwch i’r benthyciwr morgeisi a fydd angen i daliadau barhau tra’r ydych yn gwneud cais am brofiant. Os felly, bydd yn rhaid i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • talu’r biliau hyn eich hunan – a’u hawlio’n ôl o’r ystad unwaith y bydd gennych brofiant
  • gwirio a oedd gan y person aswiriant bywyd neu bolisi diogelu morgais sy’n cwmpasu’r taliadau hyn