Ar gyfer beth mae PIP

Gall Taliad Annibyniaeth Personol helpu gyda chostau byw ychwanegol os oes gennych:

  • gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu anabledd hirdymor
  • anhawster yn gwneud tasgau bob dydd penodol neu symud o gwmpas oherwydd eich cyflwr

Gallwch gael PIP hyd yn oed os ydych yn gweithio, gyda chynilion neu鈥檔 cael y rhan fwyaf o fudd-daliadau eraill.

Gallwch hefyd ddarllen am PIP yn Saesneg (English).

Sut mae PIP yn gweithio

Mae 2 ran i PIP:

  • rhan bywyd bob dydd 鈥� os ydych angen cymorth gyda thasgau bywyd bob dydd
  • rhan symudedd 鈥� os ydych angen cymorth gyda symud o gwmpas

Mae p鈥檜n a ydych yn cael un elfen neu ddwy a beth fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar ba mor anodd rydych yn cael tasgau bob dydd a symud o gwmpas.

Os ydych yn agos谩u at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy鈥檔 cyfyngu ar fywyd), byddwch yn cael y rhan bywyd bob dydd yn awtomatig. Bydd p鈥檜n a ydych yn cael yr elfen symudedd yn dibynnu ar eich anghenion. Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais a faint fyddwch yn ei gael os ydych yn agos谩u at ddiwedd oes.

Y rhan bywyd bob dydd

Gallech gael y rhan bywyd bob dydd o PIP os ydych angen help gyda phethau fel:

  • paratoi bwyd
  • bwyta ac yfed
  • rheoli eich meddyginiaethau neu driniaethau
  • ymolchi a chael bath
  • defnyddio鈥檙 toiled
  • gwisgo a dadwisgo
  • darllen
  • rheoli eich arian
  • cymdeithasu a bod o gwmpas pobl eraill
  • siarad, gwrando a deall

Rhan Symudedd

Efallai y gallwch gael y rhan symudedd o PIP os ydych angen cymorth gyda:

  • gweithio allan llwybr a鈥檌 ddilyn
  • symud o gwmpas yn gorfforol
  • gadael eich cartref

Nid oes rhaid i chi gael anabledd corfforol i gael y rhan symudedd. Efallai y gallwch hefyd fod yn gymwys os ydych ag anhawster symud o gwmpas oherwydd cyflwr iechyd gwybyddol neu feddyliol, megis pryder.

Sut mae anhawster gyda thasgau yn cael ei asesu

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn asesu pa mor anodd y mae tasgau bob dydd a symudedd i chi eu cyflawni. Ar gyfer pob tasg byddant yn edrych ar:

  • os allwch ei gwneud yn ddiogel
  • pa mor hir y mae鈥檔 ei chymryd i chi
  • pa mor hir mae鈥檆h cyflwr yn effeithio ar y gweithgaredd hwn
  • p鈥檜n a ydych angen cymorth i鈥檞 gwneud, gan berson neu ddefnyddio offer ychwanegol

Gallai eich gofalwr gael Lwfans Gofalwr os ydych ag anghenion gofal sylweddol.

Help gyda PIP

Os ydych angen cymorth i ddeall neu wneud cais am PIP gallwch:

Os ydych chi鈥檔 byw yn yr Alban

Mae angen i chi yn lle PIP.

Os ydych chi鈥檔 cael PIP ar hyn o bryd, byddwch yn cael eich symud yn awtomatig i ADP erbyn gwanwyn 2025.

Pan fydd y symud yn dechrau, byddwch yn cael llythyrau gan DWP a Social Security Scotland. .

Os ydych chi鈥檔 symud o鈥檙 Alban i Loegr neu Gymru

Os ydych chi鈥檔 cael ADP ac yn symud o鈥檙 Alban i Gymru neu Loegr, mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais newydd am PIP yn lle.

Bydd eich ADP yn stopio 13 wythnos ar 么l i chi symud - gwnewch gais am PIP cyn gynted 芒 phosib ar 么l symud neu gallai taliadau gael eu heffeithio.

Os cewch Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA)

Mae Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA) yn cael ei ddisodli gan PIP i鈥檙 rhan fwyaf o oedolion. Byddwch yn parhau i gael DLA os:

  • ydych o dan 16 oed
  • cawsoch eich geni ar neu cyn 8 Ebrill 1948

Os cawsoch eich geni ar 么l 8 Ebrill 1948, bydd DWP yn eich gwahodd i wneud cais am PIP. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes bydd DWP yn ysgrifennu atoch am eich DLA oni bai fod eich amgylchiadau鈥檔 newid.